WOMEX: Expo Cerddoriaeth Byd-eang

Ym mis Hydref 2013, croesawodd Cymru WOMEX, digwyddiad masnach mwyaf y byd ar gyfer cerddoriaeth fyd/gwerin/gwreiddiau a thraddodiadol. Mae’r digwyddiad pum diwrnod blynyddol hwn yn cynnwys Ffair Fasnach brysur, Gŵyl Arddangos, Cynhadledd, a rhaglen Ffilm, gyda thua 60 o gyngherddau yn cynnwys 300 a mwy o artistiaid, tua 650 o gwmnïau o dros 90 o wledydd yn arddangos yn y ffair fasnach, a mwy na 400 o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Yn 2019, glaniodd WOMEX yn Tampere, y Ffindir a'r flwyddyn flaenorol, Gran Canaria yn yr Ynysoedd Dedwydd.

Mae WOMEX yn unigryw. Dyma fan ymgynnull y Diwydiant Cerddoriaeth Byd ac mae pobl o bob gwlad yn y byd yn ei fynychu. Mae pobl yn mynychu i drefnu gigs, teithiau, bargeinion, cyhoeddusrwydd, cytundebau a mwy. Mae cerddorion, asiantau, hyrwyddwyr, cyhoeddwyr, newyddiadurwyr, gwneuthurwyr ffilm, rheolwyr a mwy yn cyfarfod, yn siarad ac yn gwneud cynlluniau.

Mae Trac Cymru yn rhan o bartneriaeth ehangach o’r enw Gorwelion. Ers 10 mlynedd, mae partneriaid Gorwelion wedi dod at ei gilydd yn WOMEX i sicrhau bod ein cerddorion llawr gwlad yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach trwy ddarparu cyngor, cyllid, arddangos cyfleoedd a chymorth yn y digwyddiad. Mae partneriaeth Gorwelion yn dathlu’r gerddoriaeth amrywiol sy’n dod o Loegr, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban/Alba a Chymru/Wales – gan helpu artistiaid dawnus i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol ar lwyfan y byd. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cefnogi artistiaid Cymreig fel Alaw a 9Bach wrth iddyn nhw arddangos i’r byd, ac wedi datblygu partneriaethau arwyddocaol gyda sefydliadau cerdd mor bell i ffwrdd â Llydaw a Seland Newydd.

Mae rhagor o wybodaeth am WOMEX ar gael yn www.cerddcymru.co.uk a www.womex.com