
Welsh Music Abroad
Mae Welsh Music Abroad yn cael ei bweru gan bartneriaeth rhwng FOCUS Wales, Trac Cymru, a Tŷ Cerdd. Creu cyfleoedd i artistiaid a diwydiant ymgysylltu â marchnadoedd cerddoriaeth ledled y byd. Gyda chyfoeth o brofiad a rennir o weithio’n rhyngwladol, ac yn dilyn blynyddoedd lawer o gydweithio cadarnhaol trwy brosiectau lluosog, yn gynnar yn 2023, ymunodd ein sefydliadau â’i gilydd i ffurfio cynllun uchelgeisiol a fydd yn ein gweld yn gweithio mewn partneriaeth i wella ein gwaith rhyngwladol wrth symud ymlaen, trwy gyfrwng Welsh Music Abroad.
Drwy rannu ein profiad, ein gwybodaeth, a’n rhwydweithiau cyfunol, ein nod yw creu mwy o gyfleoedd rhyngwladol i bob artist a diwydiant sy’n gweithio yn y sector cerddoriaeth yng Nghymru, i hybu eu datblygiad artistig, ac yn y pen draw, creu gyrfaoedd mwy cynaliadwy i’r rhai sy’n dymuno gweithio yn y sector. Rydym wedi ymrwymo i ddiwydiant cerddoriaeth cynhwysol gyda chyfleoedd i bawb, ac rydym wedi ymrwymo i gymryd agwedd amgylcheddol gyfrifol at y gwaith hwn. Am ragor o wybodaeth, gallwch ymweld â www.welshmusicabroad.com