
Kann an Tann: Prosiect Artistig Cymru-Llydaw
Roedd Kann an Tan yn brosiect ar y cyd â Tafwyl, Trac Cymru a’r Cyngor Prydeinig, yn cyfuno cerddorion o Gymru a Llydaw i gynhyrchu set ar gyfer llwyfan Tafwyl 2022. Daeth â chwe artist ynghyd – tri o Gymru a thri o Lydaw – i greu cerddoriaeth newydd ynghyd fel partneriaid. Yr artistiaid yn cydweithio oedd Gwilym Bowen Rhys a Nolwenn Korbell, Cerys Hafana a Léa, a Sam Humphreys a Krismenn. Hwyluswyd y prosiect gan y cerddor Lleuwen Steffan, sy’n hanu o Gymru ac yn byw yn Llydaw!
Nod y prosiect oedd rhoi cyfle i’r artistiaid weithio gydag artist o wlad wahanol sydd hefyd yn creu a pherfformio mewn iaith leiafrifol. Treuliodd yr artistiaid dridiau cyn Tafwyl gyda’i gilydd yn stiwdios Musicbox yng Nghaerdydd – cyn perfformio’n fyw gyda’i gilydd ar lwyfan Y Sgubor yn Nhafwyl. Cymerwch olwg ar glipiau o bob un o'r perfformiadau cydweithredol arbennig isod ac ewch i'n sianel Youtube am fwy o fideos!