Pecyn TGAU: Cerddoriaeth Draddodiadol yng Nghymru

Mae Cerddoriaeth Werin Draddodiadol o Gymru bellach yn opsiwn fel rhan o TGAU Cerddoriaeth CBAC. Bu Trac Cymru mewn partneriaeth â chorff Celfyddydau Mewn Addysg NAWR i gynhyrchu pecyn adnoddau ar gyfer athrawon cerdd a thiwtoriaid, sydd ar gael mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg fel PDF i’w lawrlwytho neu drwy wefan adnoddau addysg Llywodraeth Cymru, Hwb. Comisiynwyd yr addysgwraig a’r gyfansoddwraig Sioned Webb gan Trac i ysgrifennu’r pecyn, sydd wedi’i ddarlunio drwyddo draw gyda chysylltiadau fideo ac ymarferion.

Mae’r pecyn yn helpu athrawon i:

• dysgu am y traddodiadau hyn a sut i'w cymharu â genres cerddoriaeth Glasurol Gorllewinol a chyfoes

• gweithio gyda myfyrwyr ar gyfansoddi, gwaith ensemble, ffilm a pherfformiad

• archwilio materion ehangach hunaniaeth ac amrywiaeth o fewn y cwricwlwm newydd.

Fel adnodd academaidd, mae cerddoriaeth draddodiadol Cymru yn sbringfwrdd perffaith i archwilio’r cwricwlwm Cymreig, Bagloriaeth Cymru a’r maes llafur TGAU yn gyffredinol. Mewn cyd-destun ehangach mae’r gerddoriaeth hon yn fan cychwyn perffaith i archwilio diwylliant, iaith a hanes Cymru a’n lle ni o fewn byd cynyddol amrywiol. Cysylltwch â ni ar trac@trac-cymru i dderbyn eich copi lawrlwytho yn Saesneg, Cymraeg, neu’r ddau, yn rhad ac am ddim.