
EFEx: Expo Gwerin Lloegr
Mae English Folk Expo yn ŵyl arddangos tridiau a ffair fasnach gerddoriaeth werin ryngwladol, sy’n cynnwys talent o Loegr ynghyd â ‘phartner rhyngwladol’ blynyddol. Mae’n denu archebwyr, gwyliau, canolfannau celfyddydol, clybiau gwerin, asiantau a hyrwyddwyr o bob rhan o’r DU, Ewrop a Chanada (a mannau eraill), ac fe’i cynhelir ym Manceinion bob mis Hydref, ychydig cyn WOMEX. Bob blwyddyn mae ffocws arbennig ar un wlad arall, ac yn 2018 Cymru oedd y partner rhyngwladol. Fe wnaethom arddangos pedair act, sef Catrin Finch a Seckou Keita, Alaw, Gwyneth Glyn a 9Bach mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae Partneriaid Rhyngwladol blaenorol yn cynnwys Prince Edward Island yng Nghanada (2017), Fflandrys (2016) a Denmarc (2015).
Mae EFEx yn rhoi llwyfan i dros ddeugain o artistiaid dros dridiau, gan ddarparu amserlen orlawn gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio, ffair fasnach, arddangosiadau labeli a derbyniadau ar gyfer dirprwyaeth wahoddedig o 180 o raglenwyr gwyliau a lleoliadau yn y DU a rhyngwladol, asiantau, y cyfryngau, y wasg a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y diwydiant, yn ogystal â chynulleidfa gyhoeddus, dan faner Gŵyl Werin Manceinion. Swyddogaeth Trac Cymru yn EFEx yw rhoi gwybod i’r diwydiant gwerin yn ein gwledydd cyfagos am y gerddoriaeth draddodiadol ragorol ac arloesol sy’n dod allan o Gymru a’u cynghori ar sut i gyrraedd, cyfarfod ac archebu ein perfformiadau yn eu gwyliau, clybiau, a chanolfannau celfyddydau.