trac: Nodiadau i olygyddion
Sefydliad datblygu diwylliant gwerin Cymru yw trac; mae’n gweithio i hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerddoriaeth a dawns Cymru, yng Nghymru a thu hwnt ac mae’n ymddwyn fel eiriolydd ar ran y celfyddydau traddodiadol gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill. Fe gafodd ei sefydlu yn 1997 ar sail y gred gyffredin ym mhwysigrwydd a gwerth diwylliant traddodiadol Cymru, ymwybyddiaeth o’i pherthnasedd parhaus i’r presennol, ac angerdd dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerddorol i’w cynnig.
Heddiw, mae trac yn datblygu cerddoriaeth a dawns werin Cymru mewn modd strategol drwy feithrin diddordeb a thalent a chyflwyno cerddorion gwerin gorau Cymru ar draws y byd. Fe welwch trac ar waith mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol, ar gaeau gwyliau a mewn digwyddiadau arddangos rhyngwladol, yn helpu i sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn parhau i gyfoethogi bywydau waeth bynnag oedran, cefndir, hil, neu iaith.
Mae trac yn elusen gofrestredig ac yn dîm gweithredol a gaiff ei gefnogi gan fwrdd o ymddiriedolwyr ymroddgar sydd yn teimlo’n angerddol dros ddiwylliant gwerin ac yn arbenigwyr yn eu meysydd perthnasol.