Pwy ‘dy pwy
Tîm Gweithrediadau trac

Danny Kilbride
Cyfarwyddydd
Mae Danny wedi bod yn gerddor proffesiynol ar hyd ei oes, ac yn un o sylfaenwyr trac.

Blanche Rowen
Rheolydd Cwmni
Mae cefndir Blanche ym maes gwybodaeth a chynhyrchu cylchgronau; mae hi’n gantores ac yn gerddor.

Elisa Morris
Gweinyddydd Datblygu a Phresenoldeb ar y We
Mae Elisa yn gerddor, cantores, clocsiwr ac yn alwr twmpath. Graddiodd o gwrs BA Daearyddiaeth ac mae nawr yn astudio gradd meistr mewn Rheoli Celfyddydau yn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ymddiriedolwyr trac

Marlene Davies
Cadeirydd
Marlene yw cyn-bennaeth Cyfrifyddu a Chyllid yn Ysgol Fusnes Morgannwg ym Mhrifysgol Morgannwg Pontypridd, mae hi hefyd yn gantores.

Jim Blythe
Ymddiriedolwr
Mae Jim yn awdur ac yn gyn-ddarlithydd marchnata ym Mhrifysgol Morgannwg, ac mae ganddo ddiddordeb hirsefydlog mewn cerddoriaeth.

Dr Keith Floyd
Ymddiriedolwr
Mae Dr Keith Floyd yn ffermwr ac yn ddarlithydd wedi ymddeol. Mae en ffidlwr a dawnsiwr, ac yn un o hoelion wyth sin werin Aberystwyth.

Francis Brown
Ymddiriedolwr
Hyrwyddwr cerdd a blogiwr yw Francis a fe sy’n rhedeg Newsoundwales gan weithio’n bennaf gydag actiau Cymreig megis Brigyn ac Al Lewis. Mae ei gefndir proffesiynol ym myd personél, rheoli ac hyfforddiant.

Terry Duffy
Ymddiriedolwr
Mae Terry yn berfformiwr sydd yn chwarae’r mandolin, ffidil a’r banjo, ac yn canu a dawnsio gyda Dawnswyr Delyn. Mae e’n drefnydd prosiect i Clera, gyda chefndir ym maes iechyd a diogelwch rhyngwladol.

Catherine Bartlett
Ymddiriedolwraig
Mae gan Catherine radd mewn Cyfrifeg a Chyllid. Mae ganddi brofiad sylweddol wirfoddoli gyda phobl ifanc a datblygu sgiliau.
Noddwyr trac

Frank Hennessy
Noddwr
Mae Frank yn berfformiwr a chyfansoddwr, ac yn hen ffrind i trac. Mae e’n cyflwyno ‘Celtic Heartbeat’ i BBC Radio Wales- rhaglen am wreiddiau Gwerin a cherddoriaeth acwstig.

Dafydd Iwan
Noddwr
Dafydd Iwan yw’r canwr gwerin protest Cymreig mwyaf eiconig, ac un o sylfaenwyr Recordiau Sain, cwmni recordiau mwyaf Cymru.

Huw Stephens
Noddwr
Huw Stephens yn gyflwynydd radio â sioeau ar BBC Radio 1 a BBC Radio Cymru, ac yn un o sylfaenwyr yr ŵyl Swn.

Kevin Brennan
Noddwr
Kevin Brennan yw Cadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer y Celfyddydau Gwerin. Mae’n AS Llafur dros Orllewin Caerdydd a Gweinidog yr Wrthblaid Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Celfyddydau a Threftadaeth.