Peidiwch colli’r ddwy raglen arbennig awr-yr-un a fydd yn rhoi sylw i oreuon sîn cerddoriaeth werin Cymru a hynny yn ystod oriau brig teledu S4C ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, Ebrill 18fed a’r 19eg am 9yh. Mae’r sioeau’n cynnwys Angharad Jenkins, Bernard KilBride, Brychan Llyr, Cass Meurig Thomas, Gareth Bonello, Gareth Westacott, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn Emyr, Huw Roberts, Katell Keineg, Kizzy Crawford, Lisa Jen Brown, Lowri Evans & Lee Mason, Mike Lease, Oliver Wilson-Dickson, Patrick Rimes, Richard James, Robert Evans, Ryland Teifi, Stephen Rees, Gwilym B Rhys ac Idris Jones.