Dawnsio Gwerin Llanymddyfri

Tagiau / Tags:

Mae Dawnsio Gwerin Llanymddyfri yn grŵp anffurfiol o bobl o’r un feddwl sy’n dod at ei gilydd i fwynhau eu hunain drwy ddawnsio gwerin.

Mae Dawnsio Gwerin Llanymddyfri wedi parhau gyda’r patrwm o sesiynau dawnsio misol, patrwm a osodwyd pan ffurfiwyd y grŵp yn 1994. Fel arfer mae’r dawnsiau’n deillio o Brydain, (Cymreig, Seisnig, neu Albanaidd) ac o bryd i’w gilydd bydd amrywiadau ar y rhain, er enghraifft: dawnsiau Cernywaidd neu Fanawaidd ac ambell waith Llydawaidd neu ddawns gylch o Ddwyrain Ewrop. ‘Dyn ni’n cwrdd yn rheolaidd bob trydydd Gwener y mis (ag eithrio mis Awst), gan grwydro o’r drefn yma ond yn achlysurol. Bydd y dawnsio’n dechrau tua 7.30 yh, gyda’r sesiynau Dolau Bran yn dod i ben tua 10.30yh, tra bydd y digwyddiadau mwy yn parhau tan yn hwyrach. Mae’r mwyafrif ohonon ni wedi bod yn dawnsio am rai blynyddoedd, ond ‘dyn ni wastad yn awyddus i groesawu dechreuwyr sydd am ‘rhoi tro arni’ a dawnswyr mwy profiadol sydd am gyfrannu brwyfrydedd a diddordeb newydd. Mae croeso i chi ddod ar eich pen eich hun, gyda phartner neu gyda’ch teulu – byddwch yn siwr o dderbyn croeso cynnes.