Band y Braichmelyn

Tagiau / Tags:

Mae gan Band y Braichmelyn dros ugain mlynedd o brofiad yn rhedeg ceilidhs a thwmpathau llwyddiannus.

Mae’r band craidd yn cynnwys acordion, banjo (a/neu gitâr) a gitâr fas. Mae hwn yn llwyddo cynhyrchu sŵn trawiadol a bywiog sy’n gallu ymateb i’r dawnswyr. Rydym yn chwarae cymysgedd o gerddoriaeth o ar draws Prydain ar gyfer dawnsio. Os hoffech i ni chwarae cerddoriaeth yn bennaf o un wlad gadewch i ni wybod.

Os hoffwch i’r band gynnwys ffidil allwn, fwy na thebyg, cael gafael ar rywun. Os ydyn yn gyfarwydd â’r lleoliad (rydym wedi chwarae yn rhan fwyaf o’r rhai lleol) allwn eich cynghori ynglŷn â nifer o elfennau eraill.