Delyth & Angharad

Delyth & Angharad
Delyth & Angharad : Deuawd gwerin mam a merch o Abertawe. Mae cemeg diymwad rhwng y ddwy gerddor yma, ac nid yw hynny’n syndod am eu bod yn fam a merch. Roedd Delyth Jenkins, sy’n chwarae’r delyn Geltaidd, yn un o’r aelodau a sefydlodd y triawd offerynnol arloesol, Aberjaber, ac mae ganddi yrfa lwyddiannus fel unawdydd hefyd. Mae Angharad Jenkins yn canu’r ffidl gyda’r grwp gwerin Cymreig, Calan, a ffrwydrodd ar y sîn werin Gymreig fel chwa o awyr iach.


Delyth & Angharad: Mother and daughter folk duo from Swansea. There is an undeniable chemistry between these two musicians, and no wonder as they are mother and daughter. Delyth Jenkins, who plays the Celtic harp, was a founding member of the pioneering instrumental trio Aberjaber and also has a successful career as a soloist. Angharad Jenkins plays fiddle with the Welsh folk group Calan which has burst onto the Welsh folk scene like a breath of fresh air.