Dawnswyr Tanat

Dawnswyr Tanat
Ffurfiwyd Dawnswyr Tanat ym Mai 2009. Mae’r traddodiad o ddawnsio gwerin yn ymestyn yn ôl yn bell iawn yn yr ardal, gyda chyfeiriadau hanesyddol yn Llanfyllin, Croesoswallt a Llangadfan, a dawnsfeydd wedi eu cofnodi gydag enwau megis Clawdd Offa a Gwylnos Croesoswallt.
Rydym yn cyfarfod bob nos Lun yng nghefn yr Old New Inn, Llanfyllin er mwyn dysgu ac ymarfer dawnsfeydd gwerin o Gymru a rwtinau clocsio a’r alawon sy’n cyd-fynd â nhw. Mae ein grŵp yn cynnwys dawnswyr, cerddorion a’r rheiny sy’n dawnsio ac yn chwarae offerynnau.
Mae’r rheiny sy’n mynychu (o 11 oed hyd 90) yn cyfrannu £1 (50c i blant) yn wythnosol tuag at logi’r ystafell, ac mae bob amser croeso cynnes i aelodau newydd.
Rydym yn fudiad Cymraeg ei hiaith sy’n derbyn dysgwyr o bob gallu, gan eu hannog i drochi eu hunain yn ein hetifeddiaeth a’n diwylliant. Ein nod yw cadw’r dawnsfeydd a’r alawon yn fyw ac mae gennym ddiddordeb penodol mewn dawnsfeydd lleol a’r straeon am sut y maent wedi goroesi ac wedi cael eu pasio lawr ar hyd y cenedlaethau.
Rydym yn bencampwyr dawns Eisteddfod Powys ar ddau achlysur ac wedi dod yn drydydd yng Nghystadleuaeth Gŵyl Cerdd Dant Conwy 2012. Rydym yn cynnal nifer o nosweithiau a thwmpathau ar gyfer grwpiau a mudiadau lleol, a hefyd ar gael i berfformio mewn gwyliau.

Dawnswyr Tanat was formed in May 2009. The Welsh folk dance tradition dates back a long way in this area, with historical references to dancing at Llanfyllin, Oswestry and Llangadfan, and some dances have been recorded with local names such as Clawdd Offa/ Offa’s Dyke and Gwylnos Croesoswallt/ Oswestry Wake.
We meet every Monday evening in the back room of the Old New Inn, Llanfyllin to learn and practice Welsh folk dances and clogging routines and the tunes they are danced to. Our group consists of dancers, musicians and those who both dance and play.
Those who attend (aged 11 to 90) contribute £1 (50p for a child) towards the hire of the venue, and new members are always welcome.
We are a Welsh speaking organisation which welcomes learners of all abilities, encouraging them to immerse themselves in our culture. We aim to keep the dances and tunes alive and are particularly interested in local dances and the stories behind how they have survived/been passed down.
We have been dance champions at Eisteddfod Powys on two occasions, and came third in the Folk Dance competition at Gŵyl Cerdd Dant Conwy 2012. We host a number of evenings and twmpathau for local groups and societies and are available to perform at festivals.

Facebook:
https://www.facebook.com/groups/663332167026395/