Maniffesto ar gyfer y celfyddydau traddodiadol

Eich Ymatebion

I baratoi ar gyfer Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), roedd gennym cyfle i ddangos bod angen buddsoddi’n ddigonol yn ein celfyddydau traddodiadol ac fe gofynnodd i chi am eich mewnbwn. ‘Roeddwn am ddefnyddio’r adolygiad hwn i gynnig gweledigaeth ar gyfer ein traddodiadau gwerin, gweledigaeth a fydd yn datblygu dros y deng mlynedd nesaf, gan amlinellu beth ‘rydym ni – y sector – am weld, sut ‘rydym yn bwriadu ei wireddu a phaham mae’n bwysig.

Ymatebion iaith Saesneg

Rhai Safbwyntiau Personol

Clera

Annwyl Danny a phawb yn Trac

Diolch am yr ebost i Clera yn gofyn am syniadau sut i ddatblygu’r gwaith mae Trac yn ei wneud gyda’r traddodiadau gwerin yng Nghymru. Yn gyntaf hoffwn ddweud bod Clera wedi bod yn falch iawn o gydweithio gyda Trac ar sawl prosiect yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn ddiolchgar am y gweithgareddau mae Trac yn eu trefnu, (fel yr Arbrawf Mawr, a Ty Gwerin). Mi fasai Clera yn falch iawn o fod yn rhan o unrhyw fforwm y bydd Trac yn eu trefnu yn ystod y flwyddyn er mwyn creu gweledigaeth i’r dyfodol i ehangu’r maes gwerin.

  1. Dyma rai syniadau sydd wedi cael eu cynnig gan aelodau Clera ar gyfer y dyfodol:
    1. Mwy o gydweithio rhwng yr holl gymdeithasau traddodiadol gwerin (Clera, Alawon Gwerin, Dawnsio, Cerdd Dant) a bod Trac fel ambarel yn cydlynu prosiectau rhwng pawb. Beth am gael cyfarfod cyffredinol rhwng pob cymdeithas yn flynyddol yn Ty Gwerin er mwyn trafod sut i ddatblygu’r gwaith?
  2. Gellir cynnal diwrnodau o weithdai amrywiol wedi eu trefnu rhwng pawb – ‘Arbrawf Bach’- sy’n cynnwys sesiynnau offerynnol/canu/dawnsio. Gellir cynnal 3-4 gweithdy diwrnod mewn ardaloedd gwahanol o Gymru. Mae Clera wedi cynnal gweithdai yn y gorffennol ond mae’n gostus i gael amrywiaeth o diwtoriaid gyda dim ond chydig ymhob dosbarth, ac hefyd mae cael gwirfoddolwyr i ymroi i fynd ati i drefnu’r gweithdai a’u hysbysebu yn ddigonol yn anodd. Os basai sawl cymdeithas yn mynd ati i drefnu gwahanol diwtoriaid, Trac yn helpu hefo’r marchnata a’r trefnu, a’r holl gymdeithasau yn cyfrannu at y diwrnod, mi fasa’n creu gweithgaredd amrywiol gyda llawer o ddosbarthiadau, a dipyn o ‘buzz’ am y diwrnod gan fod llawer o bobl o’r ardal yn dod at ei gilydd.
  3. Gallai diwrnod o weithdai gael ei glymu mewn i gyngerdd gwerin yn yr un ardal. Unai bod rhai o’r tiwtoriaid yn aelodau o un grwp gwerin ac yn perfformio mewn neuadd leol y noson honno, neu bod cyngerdd yn cael ei drefnu ychydig wythnosau cyn y gweithdai ac felly yn gyfle i farchnata’r gweithdai i bobl leol.
  4. Beth am i Trac drefnu cyfres o gyngherddau gwerin mewn lleoliadau o gwmpas Cymru – rhyw fath o asiantaeth i berfformwyr gwerin? Os oes ‘Clwb Gwerin’ yn digwydd yn gyson yn rhywle yna bydd yn magu cynulleidfa gyson ac yn creu diddordeb cyffredinol mewn cerddoriaeth a thraddodiad gwerin.
  5. Mae ceisio cael diddordeb plant a phobl ifanc (yn enwedig yr rhaid sydd heb unrhyw gysylltiad gyda cherddoriaeth gwerin) yn anodd iawn heb bod alawon/caneuon yn cael eu cyflwyno yn yr ysgolion. Oes modd creu pecynnau addysgol i ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n cynnwys deunydd mae athrawon dosbarth yn gallu eu defnyddio i ddysgu alawon i’r disgyblion? Beth am greu llyfrau dysgu offerynnol i blant sy’n gwneud defnydd o alawon Cymreig yn hytrach na rhai o ddiwylliannau eraill? (Er enghraifft defnyddio hwiangerddi syml fel ‘Mi welais Jac y Do’ yn hytrach na ‘Twinkle, twinkle little star’ mewn llyfr dysgu ffidil.) Oes ffordd i Trac a’r cymdeithasau gwerin lobïo Llywodraeth Cymru i gynnwys cerddoriaeth werin ar y cwriciwlwm cenedlaethol?
  6. Hoffwn weld Trac yn noddi cynlluniau sy’n galluogi artistiaid gwerin i fynd o gwmpas ysgolion yn gwneud cyflwyniadau ar gerddoriaeth gwerin a gweithdai cyson gyda’r plant.
  7. Hoffwn weld Trac yn cydweithio gyda’r athrawon peripatetic sy’n bodoli eisoes mewn gwahanol ardaloedd, er mwyn hybu defnyddio alawon/caneuon gwerin wrth ddysgu offeryn. Neumi fasai’n wych mynd cam ymhellach a bod Trac yn gallu cyflogi athrawon offerynnol/canu eu hunain i fynd o gwmpas ysgolion yn dysgu mewn dull gwerin? Yn aml mae’r cynghorau Sir yn blaenoriaethu pynciau addysgol eraill, felly gall hyn greu agoriad i gorff fel Trac ddarparu addysg gerddorol, a rhoi cyfleoedd i gerddorion gwerin.
  8. Beth am gydweithio hefo grwpiau dysgwyr i hybu defnyddio’r Gymraeg yn y gymdeithas drwy gynnal clybiau gwerin yn gyson? Oes modd cydweithio hefo Mentrau Iaith mewn gwahanol ardaloedd – gall hyn hefyd glymu i mewn i bwynt 3 uchod o gynnal cyngherddau gwerin.
  9. Ymhellach i bwynt 8 gallai Trac gydweithio hefo cymdeithasau/sefydliadau llenyddol Gymreig i fod yn rhan o berfformiadau drama, neu weithdai sy’n cynnwys adrodd straeon gwerin gyda chyfeiliant cerddoriaeth werin. Yn ddiweddar gwelais cynhyrchiad o’r ddrama ‘Mr Bulkeley o’r Brynddu’ ac roedd hwn yn enghraifft dda o hyn, gyda’r stori’n seiliedig ar ddeunydd o’r ddeunawfed ganrif a cherddoriaeth werin yn rhan bwysig o’r cynhyrchiad.
  10. Creu adnoddau gwerin ar y we – basdata o alawon / caneuon / dawnsfeydd (yn cynnwys clipiau sain/fideo, a nodiant neu gyfarwyddiadau dysgu dawnsfeydd). Mae llawer o alawon ar gael ar wahanol wefannau ac mewn llyfrau yn barod, ond dylai bod un archif cynhwysfawr yn bod. Oes modd cael rhyw gynllun ymchwil yn rhedeg rhwng Trac a phrifysgol neu goleg i gyflogi rhywun i archifo / ddigido deunydd gwerin (ee cynlluniau KTP neu KESS)? Neu gydweithio hefo sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol a Sain Ffagan?
  11. Oes modd cyfuno gwefannau’r gwahanol gymdeithasau gwerin fel eu bod o dan ambarel Trac? Efallai y basa sefydlu un pwynt mynediad yn haws i’r cyhoedd ddarganfod traddodiadau Cymreig o bob math. A fasai cael un gwefan gynhwysfawr hefyd yn rhatach i’w redeg na bod pob cymdeithas gyda’i gwefannau eu hunain. Gallai’r wefan gynnwys siop ar-lein o nwyddau’r holl gymdeithasau hefyd fel sy’n digwydd yn Ty Gwerin yn yr eisteddfod. Does dim rhaid i Trac ofalu am y gwerthiant a’r dosbarthu – gallai’r cymdeithasau eu hunain drefnu hyn o’r archebion.
  12. Gellid cysidro creu rhyw fath o ddelwedd (‘branding’) ar gyfer yr holl gymdeithasau gwerin. Gallai gael ei arddangos ar y gwefan(nau), unrhyw ddeunydd marchnata gweithgaredd gwerin, a chynnyrch gwerin (llyfrau / CDau / rhaglenni teledu) fel bod y byd gwerin Cymreig yn dod yn fwy amlwg yn llygaid y cyhoedd a bod brwdfrydedd gan rhywun am un math o weithgaredd (ee dawnsio gwerin) yn eu harwain at weithgareddau eraill (ee cerddoriaeth werin).

Gobeithio bod y syniadau yma o gymhorth i chi wrth geisio llunio strategaeth i’r dyfodol. Pob lwc wrth i chi fynd ymlaen!
Yn gywir
Siwan Lisa Evans
Cadeirydd Clera

 

Questionnaire Responses Summarised

Q1 Dysgu

‘Rydym am weld rhagor o bobl yn cyfranogi at ein celfyddydau traddodiadol. Beth ddylen ni fod yn gwneud i sicrhau bod hyn yn digwydd? Dyma rhai o’r blaenoriaethau ‘rydym wedi eu hadnabod:

  • Cyflwyno cerddoriaeth draddodiadol i’r cwricwlwm ysgol
  • Dysgu Cymraeg gan ddefnyddio caneuon traddodiadol
  • Dysgu offerynnau gan ddefnyddio cerddoriaeth draddodiadolTrefnu cyrsiau fel the Big Experiment / yr Arbrawf Mawr a Gwerin Gwallgo
  • Mentora cerddorion ifanc drwy eu paru gyda chynheiliaid traddodiad profiadol, gan gynnal math o brentisiaeth.

Beth yw’ch gweledigaeth chi o’r ffordd o basio ‘mlaen y celfyddydau traddodiadol yng Nghymru?


Atebion

  • Rhoi cyfleoedd cyfartal i bawb ddysgu a mwynhau mewn ffyrdd sy’n berthnasol iddyn nhw
  • Sicrhau fod cerddoriaeth a dawns draddodiadol yn cael eu cynnig fel rhan o faes llafur cyrsiau perfformio colegau addysg bellach (yn ogystal ag ysgolion). Rhoi lle teilwng i gerddoriaeth werin a cherdd dant ar feysydd llafur TGAU, safon uwch a chyrsiau glawedigaethol
  • yr uchod i gyd – enwedig yn yr ysgolion
  • yr uchod i gyd. Symud cyllideb Opera Cymru a ‘Cwmni Dawns Cenedlaethol’ at gwerddoriaeth werin. Chwarae rhan amlwg a chydweithio gyda digwyddiadau Cymreig e.e. Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth. Cydweithio efo taqfarndai (CARMA?) i wneud slot o ganu gwerin (a throi’r jukebox lawr!). Gwyl Werin Gymreig genedlaethol flynyddol – dim stwff tramor – dechre efo gorymdaith drwy’r dre o’r perfformwyr gan gynnwys cydweithio â’r gymdeithas ddawns werin. radio arlein o gerddoriaeth werin Gymreig (fel www.cymru.fm).
Q2 Ieuenctid

Heb ymrwymiad a chyfranogiad ieuenctid bydd ein traddodiadau yn diflannu. Dyma rhai o’r prosiectau ‘rydym wedi eu hadnabod a fydd yn mynd i’r afael â hyn:

  • Wythnos Werin flynyddol i ieuenctid, wedi’i drefnu mewn partneriaeth ag Urdd Gobaith Cymru
  • Prosiectau yn cael eu cynnal mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid ledled Cymru
  • Ensemble Ieuenctid Werin Genedlaethol fel dewis arall i’r cerddorfeydd ieuenctid clasurol
  • Meithrinfeydd mewn gwyliau yng Nghymru i ddysgu caneuon, dawnsiau ac alawon traddodiadol i’r plant

Beth yw eich gweledigaeth chi o’r ffordd orau o ymrwymo â’r to ifanc?


Atebion

  • Gweithgareddau led-led Cymru ar gyfer pob math (a safon) o gerddoriaeth ect.
  • Gweithdai gwerin undydd misol yn lleol i blant a phobl ifanc. Prosiectau mewn colegau addysg bellach – noder bod 2/3 o bobl ifanc 16-19 oed yn astudio mewn coleg trydyddol neu addysg bellach – mae’n bwysig eu bod hwythau’n cael cyfle yn ogystal â disgyblion ysgol. Mae angen llawer iawn o waith cenhadu yn enwedig ymysg bobl ifanc sy heb fod trwy system addysg cyfrwng Cymraeg – mae cerddoriaeth werin Cymru’n perthyn i bawb – fel yr iaith Gymraeg – ac nid yn unig i’r 20%
  • gwneud cerddoriaeth werin yn ” trendy”
  • radio arlein (fel www.cymru.fm) – siaradwd ‘da Marc Griffiths (Marci G. sydd ar Radio Cymru nos Sadwrn). Fe sy’n gyfrifo am Cymru.fm. Falle modd cydweithio neu creu rhwybeth newydd. Miwsig werin ar y stryd adeg gemau rygbi a phel-droed ryngwladol a rhanbarthol.
Q3 Cerddoriaeth Fyw

‘Rydym am weld sîn byw prysur a bywiog a fydd yn cynnig y potensial i gerddorion traddodiadol wneud bywoliaeth go-iawn yng Nghymru ac ar draws y byd. Dyma rhai o’r targedau ‘rydym wedi eu hadnabod:

  • Cerddorion gwerin yn gwneud bywoliaeth yng Nghymru/ yn y Deyrnas Gyfunol / tramor
  • Asiantiaid, rheolwyr cerddoriaeth ac hyrwyddwyr cerddoriaeth werin
  • Cerddoriaeth werin / draddodiadol ar daith o gwmpas ein canolfannau celf a’n theatrau, ac yn ymddangos mewn lleoliadau anffurfiol: tafarndai, clybiau gwerin, barrau
  • Rhwydwaith o hyrwyddwyr, clybiau a lleoliadau sy’n llwyfannu cerddoriaeth werin
  • Gŵyl cerddoriaeth draddodiadol yn canolbwyntio ar gerddoriaeth o Gymru
  • Sioe Arddangos Gymreig ar gyfer bwcwyr rhyngwladol.

Beth yw eich gweledigaeth chi o sut mae datblygu sîn cerddoriaeth draddodiadol ffyniannus yng Nghymru?


Atebion

  • Mae angen osgoi’r pwyslais cynyddol ar y de-ddwyrain ar draul gweddill y wlad – ni ddylai fod yn angenrheidiol i fyw yng Nghaerdydd i allu cael cyfleon perfformio
  • Cenhadu trwy gynnal twmpathau dawns a thargedu bobl ifanc sy erioed wedi bod i dwmpath nac sy’n gwybod dim am draddodiadau gwerin Cymru – ac mae cannoedd ar filoedd ohonynt o gwmpas Cymru
  • Rhaid cael breindal teg am chwarae’r miwsig ar y BBC. Rhaglen gerddoriaeth werin ar S4C – efallai ar y cyd ag TG4 a BBC Alba? Os oes swyddogion a gellid eu staffio o fewn swyddfeydd y Mentrau Iaith?
Q4 Proffil

‘Rydym am i’n traddodiadau fod yn weladwy ac i gael eu dathlu. Dyma ambell lwybr sydd wedi ei adnabod:

  • Artistiaid o Gymru yn cael eu henwebu ymhob categori ar gyfer Gwobrau Gwerin y BBC
  • Tŷ Gwerin wedi’i sefydlu mewn gwyliau eraill yng Ngymru yn ogystal ag yn yr Eisteddfod
  • Y celfyddydau traddodiadol yn cael eu cysylltu ag atyniadau twristiaeth -gwybodaeth am gigiau, sesiynau, clybiau gwerin a gwyliau i fod ar gael yn y cyfryngau lleol, arlein ac mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid
  • Canolfan Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau Gwerin

Ai dyma’r cyfeiriad cywir? Os ‘dych chi’n cytuno, dwedwch; os taw na yw’r ateb, a fydddech cystal â rhannu’ch syniadau a’ch awgrymiadau?


Atebion

  • Mae’r uchod yn bwysig ac yn llwyddiannus ond dylid sicrhau nad yr un unigolion a grwpiau sydd yn cael y sylw i gyd
  • Cytuno
  • mwy o sylw gan y cyfryngau
  • Gwobrau Gwerin Cenedlaethol Gymreig – ond ddim yn rhy ffurfiol! Urddas ond hefyd gwneud benwythnos ohono. Os oes canolfan genedlaethol ei roi reit ynghannol tref nid mewn rhyw parc ddiwydiannol neu rhywle ‘greenfield’ – rhywle reit yn y canol. Falle gall hynny fod yn ganolfan ar gyfer gwyl werin genedlaehol flynyddol. Mae Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth wastad yn arwain gyda pibydd Cymreig a band werin Gymreig yn y cefn. Mae angen i bobl gwerin fod yn fwy gweledol – llai o’r busnes snobyddlyd/gwylaidd/boring. Mae angen bod yn ymffrosgar a hwyliog! Nid rhywbeth rhwng ‘consenting adults’. Creu band drwm (fel Cambria yn Wyddgrug) neu bagad pibau fel un Morgannwg (os yw dal i fynd) – rhywbeh gweledol fydd yn ysbrydoli pobl ifanc. Rhywbeth efo rhyw ffurfwisg/addasiad ar wisg draddodiadol, nid jyst troi mas mewn jins a siwmper – gwneud sioe o’r peth!

Mae trac yn annog cyfranogi at ein traddodiadau cerddoriaeth, canu a dawns – ledled Cymru, yn y ddwy iaith a gan bobl o bob oedran a gallu.

CYMRYD RHAN

Y celfyddydau gwerin yn y gymuned

 

AR Y LLWYFAN

Creadigrwydd a datblygu artistiaid

 

EIRIOLI

Ar ran y Celfyddydau Gwerin

 

trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2018 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org