Datganiad Gregynog
Pasiwyd y datganiad hwn yn unfrydol mewn cynhadledd traddodiadau gwerin wedi ei threfnu gan trac yng Ngregynog, Powys, 8 Chwefror 2003.
Mae’r gynhadledd hon yn cydnabod bod dawnsio, canu, cerdd dant, chwedleua a chwarae cerddoriaeth yn rhan o’n genedigaeth-fraint, ac yn galw ar asiantaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau fod y cyfleoedd i wneud hynny yn cael eu hannog yn hytrach na’u herydu ymhellach.
Credwn bod y gwerthoedd sydd ymhlyg yn ein dulliau traddodiadol o fynegiant yn ein clymu wrth ein gilydd, ac mai’r her ar gyfer y dyfodol yw adnewyddu ein dulliau mynegiant mewn modd sy’n boddhau’r genhedlaeth sy’n codi ac yn anrhydeddu’r rhai blaenorol.
Mae’r gynhadledd yn galw ar Lywodraeth San Steffan, Llywodraeth Cynulliad Cymru a phob corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad:
- i barchu ein hadnoddau diwylliannol naturiol a’r rhan y gallant ac y dylent eu chwarae yn adnewyddiad economaidd a chymdeithasol Cymru, yn enwedig yn y Gymru wledig;
- i brofi pob polisi o safbwynt ei berthnasedd i’n dyhead o lwyr adfeddiannu ein genedigaeth-fraint ddiwylliannol;
- i gefnogi darpariaeth llefydd lle y gellir mwynhau diwylliant traddodiadol heb lyffetheiriau gormodol;
- i gefnogi ymreolaeth pob grwp sy’n ymhel â’r diwylliant traddodiadol;
- i annog mentrau fydd yn golygu fod ein dulliau traddodiadol o fynegiant ar gael i holl bobl Cymru.
Mae’r celfyddydau traddodiadol yn allweddol o ran clymu cymdeithas at ei gilydd ac yn fynegiant o hanes, iaith, diwylliant a ffordd o fyw arbennig Cymru. Llais y gymuned ydyn nhw. Mae’n rhaid i Gymru sicrhau fod y llais hwnnw’n cael ei glywed.
Mae trac yn annog cyfranogi at ein traddodiadau cerddoriaeth, canu a dawns – ledled Cymru, yn y ddwy iaith a gan bobl o bob oedran a gallu.
TAKING PART
The folk arts in communities
ON STAGE
Creativity and artist development
ADVOCACY
On behalf of the traditional folk arts