CYMRYD RHAN: y celfyddydau gwerin yn y gymuned
Prosiectau
Cymunedau
Mae gwaith rhyng-genedliadol trac wedi cynnwys pobl o bob oedran sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth, canu a dawns traddodiadol, prosiectau megis:
- Yr Arbrawf Mawr – ein penwythnos blaenllaw blynyddol i gantorion, dawnswyr a cherddorion
- Tŷ Gwerin – erbyn hyn mae ‘tŷ gwerin’ yn rhan annatod o’r Eisteddfod Genedlaethol
- Cymorth ar gyfer sesiynau
- tiwtoriaid ar gyfer clybiau alawon a sesiynau sefydlog fel Clwb Alawon Dolanog ym Mhowys, Sesiwn Fach Caerdydd yng Nghaerdydd a Chlwb Alawon Aberystwyth
- clybiau, sesiynau a gweithdai newydd ym Machynlleth, Sir Fôn, Ystradgynlais, Bro Morgannwg, Llanymddyfri, Betws (ger Pen-y-Bont ar Ogwr) ac Arberth yn Sir Benfro
- gweithdai clocsio yng Nghaernarfon, yr Wyddgrug a Sir Ddinbych
- gweithdai canu yn Llandeilo, Ystradgynlais a Chefn Cribwr, Pen-y-Bont ar Ogwr
- Mari Lwyd – yr ‘opsiwn fegan’ am y traddodiad pen ceffyl hynafol.
- Diwrnodau Celfyddydau Gwerin – ‘rydym wedi cynnal diwrnodau cyfan megis y diwrnod o ganu gwerin a Cherdd Dant yn Aberystwyth, y diwrnodau o ganeuon ac alawon yn Sir Benfro a diwrnod yn Abertawe i gyflwyno dawnsiau ac alawon Morys
- y Sbotolau ar Ferthyr Tydfil – Pibgyrn a ‘Phlant Penderyn’
- Repertoire lleol – mae peth o’n gwaith wedi ffocysu ar gysylltiadau lleol y caneuon a’r alawon fel, er enghraifft, gwaith Ifor Ceri ym Mhowys, caneuon Sir Benfro, Alawon Fy Ngwlad wedi’i leoli yng Nghaerphilly a Rhondda Cynon Taf, ac Alawon Llanrwst
- Plygain – ail-sefydlu’r traddodiad canu eiconig Cymreig hwn
- Carolau Mai – dysgu’r caneuon a’r traddodiadau yn Aberystwyth a Chaerdydd

Prynwch eich pecyn y Fari Lwyd yma (mae’n cynnwys benglog cardfwrdd, llyr a DVD)

Prynwch lyfr y Fari Lwyd yma: 72 tudalen gyda lluniau, caneuon a chefndir. Yn ddwyiethog.
Traddiatoriaid
Rydym wedi cynnal sawl digwyddiad i bleidwyr achos gwerin a ‘gweithredwyr’ lleol – ein cyn-gyfarwyddydd, Siân Thomas, a fathodd y term ‘traddatoriaid’ ar eu cyfer
- Ysgwyd ymaith y llwch – symposiwm rhyngwladol i drafod adennill cerddoriaeth o’r archifau
- Fforwm y Traddatoriaid – diwrnodau o rhwydweithio ac hyfforddiant i glybiau gwerin a threfnyddion
- Cyhoeddwyr Cerddoriaeth – symposiwm
- Ymchwilio i ddefnydd crai – casgliadau o gerddoriaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ieuenctid
Y to ifanc yw dyfodol y celfyddydau gwerin. Dyma esiamplau o waith trac gydag ieuenctid
- Gwerin Gwallgo – ysgol werin newydd Cymru i bobl ifanc
- Folkworks – naw gwerinwr ifanc o Gymru yn mynd â’u cerddoriaeth i Durham
- Ethno – ysgol werin enwog Sweden yn croesawu talent ifanc o Gymru …
- Degogenod … a’r hyn a ddigwyddodd nesaf
- Gweithio mewn ysgolion – gweithdai canu, cerddoriaeth a dawns yn Nhorfaen, Gwynedd, Cwmtawe, Caerdydd a Phowys; sesiynau ar y Fari Lwyd yng Nghaerfyrddin, a phrosiect am gynheiliaid traddodiad y sipsiwn yn Sir Benfro.
- Eisteddfod yr Urdd – trac yn mynychu gŵyl gystadleuol fwyaf Cymru i bobl ifanc
- Jac y Do – CD i blant, gan blant

Mae trac yn annog cyfranogi at ein traddodiadau cerddoriaeth, canu a dawns – ledled Cymru, yn y ddwy iaith a gan bobl o bob oedran a gallu.
CYMRYD RHAN
Y celfyddydau gwerin yn y gymuned
AR Y LLWYFAN
Creadigrwydd a datblygu artistiaid
EIRIOLI
Ar ran y Celfyddydau Gwerin