Dros y Ffin
Bydd Dros y Ffin / Beyond The Marches yn dod â rhai o’n cerddorion gwerin cyfoes ifanc gorau ynghyd i archwilio a dathlu hanes a diwylliant cyffredin dwy wlad, Cymru a Lloegr.
Byddant yn dod at ei gilydd ar gyfer cywaith unigryw fydd yn ymchwilio i archifau cenedlaethol y ddwy wlad i ddarganfod caneuon ac alawon traddodiadol sy’n perthyn i’r naill ochr a’r llall i’r ffin a chreu deunydd newydd, a hynny mewn arhosiad preswyl byr yn Nhŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Cymru a chyn gartref David Lloyd George.
Bydd y criw’n datblygu sioe newydd gan ddefnyddio deunydd, caneuon a gwybodaeth sy’n nodi’r elfennau tebyg ac yn dathlu’r gwahaniaethau yn y defnyddiau a ganfyddant ar eu taith.
Wedyn perfformir Dros y Ffin / Beyond The Marches mewn tri chyngerdd mawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Cecil Sharp House, cartref yr English Folk Dance and Song Society, yn Llundain ym mis Mai 2015.
Bydd y cywaith hwn yn adlewyrchu treftadaeth o wahaniaethau diwylliannol a cherddorol sydd wedi codi uwchlaw ffiniau, ac yn eu cydblethu i greu arddull digymar, gan gynnig cyfle prin i fwynhau darn newydd o hanes cerddorol.
Comisiwn newydd yw Dros y Ffin / Beyond The Marches gan trac a’r English Folk Dance and Song Society. Mae’n cael ei gefnogi gan raglen “Beyond Borders” Sefydliad PRS for Music, rhaglen gyd-gomisiynu a theithio sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Iwerddon/ An Chomhairle Ealaíon.
Six young professional folk artists explore musical connections