Ydych chi’n sicr fod yr alaw yna rydych yn mwynhau ei chwarae yn un draddodiadol?

I ddechrau ein dathliadau i ddynodi pen-blwydd trac yn ugain mlwydd oed rydym wedi comisiynu Jordan Price Williams i greu cyfres o fideos i ddysgu rhai o’i hoff alawon a ysgrifennwyd yn yr ugain mlynedd diwethaf. Mae pob un ohonynt gan gerddorion ar y sin cerddoriaeth gwerin draddodiadol Gymreig, ac mae pob fideo yn cynnwys alaw gan gyfansoddwr gwahanol. Ym mhob fideo fydd Jordan yn cyflwyno ychydig o gefndir, yn chwarae’r alaw ac yna yn chwarae’r rhai cyflym ar gyfradd arafach i’ch helpu chi i ddysgu’r alaw.

Bydd fideo newydd pob ddydd Gwener yn cychwyn wythnos nesaf. Rydym yn dwli ar y traddodiad werin o ddysgu wrth y glust ond os mae cerddoriaeth ysgrifenedig o help i chi fe allwch chi lawrlwytho PDF ar gyfer pob alaw o wefan trac

Mae’r fideos yn deillio o brosiect Tŷ Cerdd roedd Jordan yn rhan ohono, Affricerdd. Roedd am redeg gweithdai i trac fel rhan o hyn ond yna ddaeth Covid-19. Rydym yn falch fod y cyfnod clo wedi arwain at fedru cynhyrchu’r fideos. Fydd y rhain yn adnodd gwych all gyrraedd grŵp eang o bobl heibio dyddiad terfyn y prosiect gwreiddiol.

Mae wedi bob yn bosib ariannu’r prosiect drwy gefnogaeth y Loteri drwy’r Cyngor Celfyddydau Cymru a chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

 

Alawfa Cymru 1: Gwenny