Hunting the Wren

Dryw bach ydyw’r gwr, amdano mae stwr … . .

Phyllis Kinney yn son am draddodiad Hela’r Dryw

Byddai Hela’r Dryw yn digwydd yng Nghymru fel arfer rhwng 6ed Ionawr a’r 12fed, sef Nos Ystwyll. Arferiad yn gysylltiedig â’r arfer o ymweld â chartrefi i ddymuno lwc dda oedd hwn, rhan o’r dathliadau yn ymwneud â throad y rhod ganol gaeaf. Ym Mhrydain roedd traddodiad Hela’r Dryw yn mynd yn ôl ymhell, yn enwedig yn Iwerddon a Chymru, er fod yr arferiad hefyd yn digwydd mewn rhannau eraill o Ynysoedd Prydain, gan gynnwys Yr Alban, Ynys Manaw yn ogystal â Lloegr. Mae arferion yn newid dros y blynyddoedd ond yn y bôn roedd yn ymwneud â chriw o bobl ifanc yn mynd allan i ddal dryw – yr aderyn lleiaf un. Weithiau byddai’n cael ei ladd ond dro arall byddai’n cael ei ddal mewn caets a elwid yn ‘elor’ ac, yn fyw neu’n farw, byddai’n cael ei gludo mewn gorymdaith drwy’r gymdogaeth gan foli’r dryw fel Brenin yr Adar. Byddent bob amser yn galw yn y ‘plas’ yn ystod eu gorymdaith oherwydd byddent yn cael gwahoddiad i fynd i mewn i gael bwyd a gwasail, ac arian weithiau.

Yn Sir Benfro byddai cyfnod hela’r dryw yn cael ei alw’n ‘Twelfth-tide’. Yno, byddai’r dryw’n cael ei ddal mewn bwthyn bychan o bren wedi ei wisgo mewn rhubanau. Y tu allan i’r drysau byddent yn canu

Dryw bach ydyw’r gwr, Amdano mae stwr,
Mae cwest arno fe, Nos heno ’mhob lle.
Fe ddaliwyd y gwalch, Oedd neithiwr mor falch,
Mewn ’stafell wen deg, A’i dri brawd ar ddeg
We have travelled many miles over hedges and stiles
In search of our King unto you we bring…
Old Christmas is past Twelfth-tide is the last
And we bid you adieu – Great joy to the new!

Yng ngogledd Cymru roedd y gân yn wahanol – gwahanol eiriau a mydr gwahanol yn cael ei chanu ar alaw wahanol. Cwestiwn ac ateb bob yn ail yw’r penillion – y pennill cyntaf yn gofyn cwestiwn a’r ail yn cynnig ateb, fel arfer gyda disgrifiad, digrif yn aml, o’r helfa a’i chanlyniadau:
“Ble rwyt ti’n mynd?” “Mynd i’r coed”
“Beth wnawn ni yno? “Hela’r Dryw bach”
“Ble cewch chi hyd iddo?” “O dan y llwyn”
“Sut cawn ni o adref?” “Ceffyl a throl”
“Sut gwnawn ei fwyta?” “Cyllell a fforc” ag ati

Er fod amryw o ganeuon hela’r dryw wedi eu casglu yng ngogledd Cymru, ymddengys nad oes disgrifiad o’r arferiad yno, ond mae nodyn yng Nghylchgrawn y Gymdeithas Alawon Gwerin I, tudalen 106, yn crybwyll gwas ffarm anllythrennog o Lanrhaeadr-ym-Mochnant yn canu fersiwn o gân hela’r dryw. “Byddai’n arfer ei chanu mewn math o siant a oedd yn hynod o ddiddorol i wrando arno a byddai’r gweision eraill yn tyrru i’r llofft stabal i’w glywed yn ei chanu ac i’w weld yn ei hactio.” Mae’r cyfeiriad at actio yn awgrymu y gallai’r gwahanol benillion fod wedi eu hactio fel rhan o’r ddefod.

Fe ddarfu’r arferiad o hela’r dryw yng Nghymru ers tro byd, ond ymddengys fod yr arferiad wedi ei adfywio ar Ynys Manaw, gyda dathliadau drwy gydol y dydd a dawnsio yn y dref, a grwpiau offerynnol mawr yn cyfeilio i’r orymdaith. Yn Iwerddon hefyd mae ‘Hela’r Dryw’ wedi cychwyn eto ar ôl marw yn llwyr mwy neu lai. Yn ffodus mae digon o hen bobl yn cofio trefn y ddefod ac felly mae’r arferiad yn cael ei drosglwyddo ymlaen unwaith eto. Yng Nghymru nid yw’r caneuon dryw bellach yn rhan o’r ddefod ond maent yn dal i fodoli. O’u canu mewn sefyllfa gymdeithasol neu dymhorol, maen nhw’n ganeuon hwyliog, dramatig weithiau, ac yn haeddu bod yn rhan o’ch casgliad ‘gwyliau’ eleni.

 

 

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yng nghylchgrawn Ontrac