Cadwch lygad am gynnwys gwerin ychwanegol ar Radio Wales a Radio Cymru wrth i’n ffrindiau yn y BBC nodi pen-blwydd Gwobrau Gwerin Cymru, a gynhaliwyd yn ôl ar 14 Ebrill 2019. Penderfynodd Trac Cymru a’n cydweithwyr ar y panel trefnu ohirio’r gwobrau dwyflynyddol a fyddai wedi cael eu cynnal eleni o blaid gohirio tan 2022. Yn lle, bydd cerddoriaeth a chyfweliadau gan artistiaid gwerin yng Nghymru mewn wythnos o ‘Ddathlu Gwerin’. Ar Radio Cymru, mae sioe nos Lisa Gwilym a sioe Aled Hughes yn y bore yn cymryd rhan, a hefyd sioe Celtic Heartbeat gyda Frank Hennessy ar BBC Radio Wales. Bydd sesiwn stiwdio a chyfweliad gyda Plu, edrych yn ôl ar Jamie Smith’s Mabon, cyfweliadau â Patrick Rimes, Avanc ac Owen Shiers, sesiwn fyw gan Eve Goodman a mwy.

I gael golwg yn ôl ar Wobrau Gwerin Cymru cyntaf, cliciwch yma

Skip to content