Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau edrych ar yr holl gynnwys rhyfeddol ar ein gwefan newydd. Mae yno adnoddau dysgu gan gynnwys fideos ac erthyglau, a chyfeiriadur o fandiau, tiwtoriaid, gwneuthurwyr offerynnau, a mwy. Mae rhestrau o wyliau, clybiau gwerin, sesiynau a chlybiau dawns – yn barod ar gyfer pryd y gallwn ni i gyd fynd i ddigwyddiadau byw eto.

Mae’r wefan newydd, ynghyd â’n logo newydd, yn dathlu pen-blwydd Trac Cymru yn 21 oed eleni. Edrychwch ar Ein Stori yn yr adran Am Trac i gael golwg ar yr ystod drawiadol o waith rydyn ni wedi’i gyflawni ers i ni ddod yn elusen gofrestredig yn 2000.

Mae’r paent prin yn sych ar y safle, felly rhowch wybod i ni os dewch chi o hyd i unrhyw ddiffigion.

Skip to content