WOMEX

Yn Hydref 2013, bu i Gymru groesawu WOMEX, digwyddiad masnachol mwyaf y byd ar gyfer cerddoriaeth werin, byd, ‘roots’ a thraddodiadol. Mae’r digwyddiad pum niwrnod hwn yn cynnwys Ffair Fasnach brysur, Gŵyl Arddangos, Cynhadledd a rhaglen Ffilm, gyda dros 60 o gyngherddau yn cynnwys dros 300 o artistiaid, tua 650 o gwmnïau o dros 90 o wledydd yn arddangos yn y ffair fasnach, a mwy na 400 o newyddiadurwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Yn 2019, cynhaliwyd WOMEX yn Tampere, Y Ffindir; y flwyddyn flaenorol, fe’i cynhaliwyd yn Gran Canaria ar Yr Ynysoedd Dedwydd.

Mae WOMEX yn unigryw. Mae’n fan cwrdd i’r Diwydiant Cerddoriaeth Byd, ac fe’i mynychir gan bobl o bob gwlad yn y byd. Mae pobl yn mynychu i drefnu gigs, teithiau, deliadau, cyhoeddusrwydd, cytundebau a mwy. Mae cerddorion, astiantau, hyrwyddwyr, swyddogion cyhoeddusrwydd, newyddiadurwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, rheolwyr a mwy yn cyfarfod i drafod a chynllunio.

Bydd pobl yn gofyn yn aml beth yw Cerddoriaeth Byd. Does neb yn gwybod, mewn gwirionedd. Bathwyd y term i farchnata recordiau a chryno ddisgiau nad oedd modd eu dosbarthu’n hawdd i gategorïau, ond daeth un cylchgrawn yn agos at y gwir trwy alw Cerddoriaeth Byd yn “local music from out there!” Côr o fugeiliaid o Azerbaijan? DJ Maori digywair, byrfyfyr? Y delyn deires Gymreig? Yn sicr.

Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod diwydiant cerddoriaeth y byd am wybod mwy am gerddoriaeth Cymru ac mai dyma lle mae Trac Cymru yn mynd i’w cyfarfod. Dyma lle’r ydym yn cychwyn datblygu’r perthnasau sydd eu hangen ar gynhyrchwyr cerddoriaeth Cymru i dyfu eu gyrfaoedd. Rydym yn ffynhonnell o wybodaeth am gerddoriaeth draddodiadol o Gymru, yn barod i ateb cwestiynau gan fynychwyr ac i hyrwyddo artistiaid Cymreig sydd yn barod ar gyfer y farchnad ryngwladol.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cefnogi artistiaid Cymreig megis Alaw a 9Bach wrth iddynt ddangos eu gwaith i’r byd, a datblygu partneriaethau arwyddocaol â sefydliadau cerddorol mor bell i ffwrdd â Llydaw a Seland Newydd.

Mae Trac Cymru yn rhan o bartneriaeth ehangach o’r enw Gorwelion. Mae byd cerddoriaeth ‘roots’ y DU yn ei gyfanrwydd yn dod ynghyd i ddysgu gan ei gilydd a chefnogi ein hartistiaid i gyflawni eu potensial. Fel arfer, caiff perfformiadau arddangos eu cefnogi ganCerdd Cymru, cangen gerddoriaeth ryngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am WOMEX ar gael o www.cerddcymru.co.uk a www.womex.com