AVANC

Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru

Mae Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru yn cynnwys cerddorion ifanc traddodiadol sydd ar fin dechrau gweithio yn broffesiynol ar y sin werin. Mae trac wedi gwahodd pumtheg o gerddorion mwya talentog Cymru i mirenio ei sgiliau o dan arweiniad artistig Patrick Rimes cyn mynd a’i sioe o gwmpas gwyliau Cymru.

Nod yr ensemble yw i hyfforddi cerddorion ifanc 18-25 mewn sgiliau perfformio i’w helpu i mewn i yrfaoedd fel cerddorion gwerin proffesiynol yn ogystal a cynrychioli cerddoriaeth gwerin Cymru ar lwyfan. Eu tasg yw i berfformio i’r safon ucha ac ail-ddehongli cerddoriaeth traddodiadol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd modern. Patrick sy’n arwain yr ensemble gyda chefnogaeth gan Sam Humphreys a Gwen Màiri. Wnaeth nifer o’r cerddorion cwrdd a’i gilydd ar gwrs offerynnol, canu a dawnsio trac Gwerin Gwallgo ar gyfer arddegwyr. Mae aelodau’r ensemble yn dod o bod rhan o Gymru ac yn cynnwys ffidlau, telynau, chwibanau, soddgrythau, gitâr a phibau.

Tyfodd yr ensemble o gwrs blynyddol Gwerin Gwallgo ac mae’n gam naturiol i gerddorion hŷn sydd y tu allan i ystod oedran 12-18 oed Gwerin Gwallgo. Cafodd yr ensemble ei dreialu gan trac yn 2017/18 gyda chefnogaeth y Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol, a rhedwyd dau benwythnos llwyddiannus o ymarferion. Cafodd yr ensemble 2018/19 ac 2019/20 ei gefnogi gydag arian gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a alluogodd y cerddorion ifanc o Gymru dod at ei gilydd, ynghyd a’u tiwtoriaid, i ymarfer ar gyfer dri phenwythnos. Mae’r ymddiriedolaeth yn adnabyddus am gefnogi opera, cerddoriaeth glasurol, celf weledol sy’n derbyn ei phrif incwm gan freindaliadau cynhyrchiad enwog Mousetrap yn Llundain, y ddrama ddirgel gan Agatha Christie.

Perfformiodd yr Ensemble yn Cwlwm Celtiadd, Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau, yr Interceltic Festival in Lorient, Eisteddfod Genedlaethol and Gŵyl Werin Hydref yn 2019.

Mae Avanc wedi bod yn brysur yn gweithio ar ddeunydd newydd yn ystod y cyfnod clo. Maent wedi gallu recordio traciau newydd a ffilmio fideo i fynd gyda’r gerddoriaeth. Cafodd March Glas ei rhyddhau ar y 23ain o Fedi and rhyddhawyd trac Fitz ar y 23ain o Dachwedd.

Lawrlwythwch sengl March Glas YMA

Lawrlwythwch sengl Fitz YMA

Dewch  i gwrdd ag Avanc

Siwan Evans

Clocsiwr o Gaerdydd yw Siwan. Dechreuodd glocsio pan yr oedd hi’n ifanc ac erbyn hyn mae hi wedi teithio’r byd gyda’i chlogs fel aelod o amryw o fandiau a thimoedd dawnsio. Ei hofferyn gwreiddiol oedd y sacsoffon ond yn fuan datblygodd ei chariad at glocsio Cymraeg i gynnwys cerddoriaeth draddodiadol. Erbyn hyn y chwiban yw ei hoff offeryn er weithiau mae hi’n difaru peidio dysgu canu’r delyn fel bod hi’n gallu eistedd lawr ar ôl clocsio.
Prif ddiddordeb Siwan tu allan i’r byd gwerin yw Ffiseg ac ma hi newydd ddechrau hyfforddi fel Ffisegwr Meddygol yn Abertawe.

Rhodri Gibbon

Mae cerddoriaeth o hyd wedi bod yn rhan annatod o gartref y Gibboniaid ac felly ym mywyd Rhodri. Dechreuodd chwarae’r recorder yn gyntaf ac mae’n dal i’w chwarae sydd yn anarferol am yr offeryn hwn. Arweiniodd chwilfrydedd Rhodri am gerddoriaeth iddo ddysgu nifer o offerynnau eraill yn cynnwys y delyn a’r soddgrwth yn ogystal â’r wy a’r pibau a welwch chi ef yn chwarae ar y llwyfan fel rhan o Avanc. Mae Rhodri yn hyderus mae’r pibau yw hoff offeryn ei rhieni oherwydd ei bod nhw’n gallu cael ei ddefnyddio i ofni cathod o’r ardd gefn. O ganlyniad i ymuno ag Avanc mae brwdfrydedd Rhodri am gerddoriaeth werin wedi tyfu. Nid yw Rhodri, erbyn hyn, yn medru dychmygu ei fywyd heb gerddoriaeth gwerin. Ar hyn o bryd mae Rhodri yn astudio gradd mewn Cynllunio Trefol yn Newcastle. (Ac yn trio ffeindio set o Northumbrian pipes i’w ware!)

Meg Eliza Cox

Mae cerddoriaeth o hyd wedi bod yn rhan annatod o gartref y Gibboniaid ac felly ym mywyd Rhodri. Dechreuodd chwarae’r recorder yn gyntaf ac mae’n dal i’w chwarae sydd yn anarferol am yr offeryn hwn. Arweiniodd chwilfrydedd Rhodri am gerddoriaeth iddo ddysgu nifer o offerynnau eraill yn cynnwys y delyn a’r soddgrwth yn ogystal â’r wy a’r pibau a welwch chi ef yn chwarae ar y llwyfan fel rhan o Avanc. Mae Rhodri yn hyderus mae’r pibau yw hoff offeryn ei rhieni oherwydd ei bod nhw’n gallu cael ei ddefnyddio i ofni cathod o’r ardd gefn. O ganlyniad i ymuno ag Avanc mae brwdfrydedd Rhodri am gerddoriaeth werin wedi tyfu. Nid yw Rhodri, erbyn hyn, yn medru dychmygu ei fywyd heb gerddoriaeth gwerin. Ar hyn o bryd mae Rhodri yn astudio gradd mewn Cynllunio Trefol yn Newcastle. (Ac yn trio ffeindio set o Northumbrian pipes i’w ware!)

Mared Lloyd

O Gwm Gwendraeth yn Sir Gar daw Mared. Mae hi wedi bod yn canu’r ffidil ac ymhél a cherddoriaeth gwerin ers yn ifanc iawn. Mae’n hoff o gymryd pob cyfle i hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg. Fel aelod o fand Beca a’i band teulu Mansant, mae hi wedi perfformio mewn amryw o wyliau dros y ddwy flynedd ddiwethaf tra ei bod hi hefyd yn gweithio tuag ei arholiadau TGAU. Er bod Mared yn adnabod ei hun fel cerddor traddodiadol yn bennaf, mae hefyd wedi derbyn hyfforddiant clasurol ac yn mwynhau arbrofi ag arddulliau cerddorol gwahanol.

Harri Llewellyn

Harri sydd ar yr acordion gydag AVANC; ynghyd ag unrhywbeth arall a ofynnir iddo’i wneud pe bai angen…
Nid o deulu cerddorol iawn y daw Harri ond fe’i anogwyd o oedran ifanc iawn i fachu ar gerddoriaeth. Er mai ar y ffidil y dechreuodd Harri ar ei daith yng nghylch cerddoriaeth werin Gymreig mae wedi bod yn chwarae’r acordion ers ychydig dros bum mlynedd erbyn hyn; er nid yw’n hoff iawn o frolio amdano gan mai hunan-addysgu a wnaeth gyda’r acordion.
Cynnwyd diddordeb Harri ym myd cerddoriaeth werin wedi iddo weld pennod o Noson Lawen le glywodd y band Calan am y tro cyntaf… ychydig yn hwyrach fe gafodd y cyfle i gwrdd ag aelodau’r band ynghyd ac aelodau’r grŵp Albanaidd, Breabach. Ers hynny bu’n cyfeilio i grŵp Dawnswyr Nantgarw, yn rhan o fand Nantgarw. Fel rhan o AVANC mae wedi blodeuo — cyn belled ei fod yn cadw pellter diogel i ffwrdd o’r pibau.

Cerys Havana

Dyma Cerys, o Fachynlleth. Er ei bod hi wedi canu offerynnau llai yn y gorffennol, y delyn deires a’r piano yw ei hofferynnau erbyn hyn (bysai hi’n annog unrhywun arall i ddysgu offeryn call…yn ddelfrydol un gallwch gario heb drafferth).
Ma hi’n hoff o ganu ac ysgrifennu cerddoriaeth a rhyddhaodd ei halbwm cynta, Cwmwl, eleni (ewch i wrando ma fe’n class). Breuddwyd Cerys yw i ganu’r fibraffon rhyw ddydd.

Osian Gruffydd

Dyma Cerys, o Fachynlleth. Er ei bod hi wedi canu offerynnau llai yn y gorffennol, y delyn deires a’r piano yw ei hofferynnau erbyn hyn (bysai hi’n annog unrhywun arall i ddysgu offeryn call…yn ddelfrydol un gallwch gario heb drafferth).
Ma hi’n hoff o ganu ac ysgrifennu cerddoriaeth a rhyddhaodd ei halbwm cynta, Cwmwl, eleni (ewch i wrando ma fe’n class). Breuddwyd Cerys yw i ganu’r fibraffon rhyw ddydd.

Elisa Morris

Dechreuodd Elisa glocsio pan yn wyth mlwydd oed i osgoi gwersi nofio ar ôl i’r athrawes ceisio ei dysgu nofio dan dŵr. Wrth ddawnsio o gwmpas y byd fel rhan o Fro Taf a Nantgarw ddarganfyddodd Elisa ei chariad am gerddoriaeth gwerin. Mae hi wedi gweld eisiau teithio o gwmpas y wlad gyda’i thelyn (sy’n ffitio ar y trên) a diw hi methu aros fod ar lwyfan unwaith eto. Yn 2018 fe alwodd hi un o’r twmpathau cyntaf gyda thermau di-ryw (gender-free) yng Nghymru ac mae hi eisiau i ddawnsio gwerin Gymreig fod mor groesawgar a hygyrch a phosib.

Rhys Morris

Dechreuodd Rhys chwarae gitâr pan yn ifanc a darganfyddodd gerddoriaeth werin fel arddegwr. Ers hynny, mae e wedi perfformio ar draws y wlad i lawer o gynulleidfaoedd ac yn ddiweddar wedi tiwtora ar gwrs Gwerin Gwallgo yn 2020. Ynghyd â chwarae cerddoriaeth werin mae hefyd yn rhan o’r band roc llwyddiannus Wigwam ac yn mwynhau gitâr ffync. Mae Rhys yn astudio Cerddoriaeth a Recordio Sain ym Mhrifysgol Caer Efrog a phan nad yw yn y stiwdio mae’n chwarae Pêl-droed Americanaidd.

Meinir Olwen

Mae Meinir Olwen yn delynores o ardal Aberystwyth. Dechreuodd chwarae cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ar ddamwain ar ôl dod adref o wyliau wedi benthyg telyn fach. O fewn blwyddyn roedd y delyn fach wedi tyfu’n delyn deires chwe troedfedd ac roedd ei gwasgu i’r car yn dipyn o her! Er gwaetha maint y delyn mae Meinir wedi ei llusgo ar hyd a lled Cymru ac Ewrop. Pan nad ydi hi’n brwydro i gadw’r delyn mewn tiwn mae Meinir yn mwynhau dianc i fyny mynyddoedd a breuddwydio am orffen ei PhD mewn ieithyddiaeth.

Sam Petersen

Mi roedd o’n amser o lawenydd mawr i’w rhieni pan, yn ei arddegau cynnar, dwedodd Sam wrthynt ei fod eisiau chwarae’r pibau. Fel rhan o deulu cerddorol roedd rhaid iddo wneud sŵn rywsut ac er gwaethaf ymgais byr i chwarae’r ffidil (pasio gradd 1), penderfynodd fod y pibau yn well. Bellach mae’n berchennog balch ar nid un ond dau gaita. Yn fwy diweddar mae o wedi datblygu cariad cynyddol at dôn ysgafn y chwibanogl isel. Gellir dod o hyd i Sam yn chwarae mewn sesiynau amrywiol o amgylch Caerdydd ac unrhyw le gwyntog â golygfeydd braf, yn ddelfrydol yn ei filltir sgwâr o Sir Benfro. Mae ei ffrindiau i gyd yn cytuno mai copa mynydd gwag yw’r lle gorau i ymarfer!