10 Mewn Bws

Pen draw’r prosiect oedd albwm cyfan a ryddhawyd gan trac a Recordiau Sain ym mis Hydref 2013, ynghyd â thaith o gwmpas Cymru. Dyma i chi flas ohoni:

Cyrhaeddodd y prosiect rowndiau terfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol, y gwnaed y fideo pedair munud hon ar eu cyfer.

Felly beth oedd barn y cerddorion?

I mi roedd yr wythnos gyfan yn un a newidiodd fy mywyd e.e. cael y cyfle i gwrdd â Meredydd Evans ac i ymweld â’r archifau yn Aberystwth a Sain Ffagan a dod i wybod am y cyfoeth o ddeunydd sy’n cael ei gadw yno. Alla i ddim diolch digon i bawb yn trac

Huw Evans

 

Y rhan fwyaf gwerthfawr o’r prosiect oedd yr wythnos ymchwil; roedd hi’n agoriad llygad. Dysgais bethau sydd wedi newid cwrs fy mywyd. Dw i wedi dechrau cwrs MA ym Mhrifysgol Bangor yn astudio cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, ac mae hyn yn deillio’n uniongyrchol o’m profiadau yn ystod yr wythnos ar y bws. Roedd hi’n fraint bod yn rhan o’r profiad gwerthfawr ac unigryw hwn, ac mae’r prosiect wedi cael dylanwad aruthrol ar fy mywyd fel cerddor. Dw i wedi ennill hyder fel unigolyn, ac mae gen i lawer mwy o hyder yn fy ngallu fel ffidlwraig, fel cantores ac yn fy ngwaith cyfansoddi a threfnu

Mari Morgan

 

I mi yr uchafbwynt oedd cael mynediad at ddiwylliant Cymreig mewn ffordd nad wyf erioed wedi llwyddo i’w wneud, gan fy mod yn ddi-Gymraeg…. roedd y mwyafrif o hyn yn fyd anweladwy i mi ac mae wedi bod yn brofiad cyfareddol

Francesca Simmons

 

Roedd yr wythnos ymchwil wedi fy ysbrydoli. Cyn y prosiect doeddwn i ddim wir yn gwybod ble i fynd i chwilio am yr hen ganeuon, ond erbyn hyn dw i’n teimlo bod gen i ddigon o ysbrydoliaeth i’m cynnal dros sawl bywyd! Mae’r prosiect wedi fy ngwir hurto! Y prif beth dw i wedi dysgu o’r prosiect yw mynd ati i ymchwilio, trefnu a ryddhau’r holl ddeunydd anhygoel sydd yn cysgu yn yr archifau ac yn aros i gael ei ail-ddarganfod. Mae’r prosiect wedi rhoi llawer o gyhoeddusrwydd i mi ac wedi rhoi hwb fawr i’m gyrfa. Dw i ddim am swnio’n ‘gawslyd’ ond mae’r sylw a wnaeth Craig sef “mae Deg mewn Bws wedi newid fy mywyd”!!! Diolch o galon.

Catrin O’Neill

 

Proffiliodd Polly March (BBC Wales) y prosiect yn ei blog (cliciwch isod i ddilyn y ddolen)

Pioneering folk project results in album launch and tour

Polly March, BBC Wales

Nod y prosiect 10 Mewn Bws oedd ail-ddadansoddi a datgyfrinio cerddoriaeth werin draddodiadol Gymreig drwy ddewis deg cerddor o wahanol gefndir cerddorol a’u gwahodd i ymchwilio i’w gwreiddiau cerddorol er mwyn ail-ddadansoddi cerddoriaeth draddodiadol Cymreig mewn ffyrdd sy’n berthnasol iddyn nhw, ac i gynulleidfaoedd cyfoes.

Roedd y prosiect yn rhannu’n bedwar cyfnod: ymchwilio, ysgrifennu, recordio a theithio.

Buodd y deg cerddor yn teithio o gwmpas Cymru, gan ymweld â’r archifau sain yn Sain Ffagan a chasgliadau cerdd y Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal â chwrdd â rhai o ‘gynheiliaid traddodiad’ ac ethnogerddoregwyr Cymru yn cynnwys Phyllis Kinney a Meredydd Evans, Arfon Gwilym, a Stephen Rees.

Yna, mewn enciliad wythnos yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, cawsant eu hannog i ail-ddadansoddi’r deunydd traddodiadol ac i gyfansoddi gweithiau newydd a oedd wedi’u seilio ar y profiadau roeddent wedi eu cael yn ystod y cyfnod ymchwil.

Daeth y daith i ben yng Ngŵyl Sŵn ar ddechrau digwyddiad World Music Expo (WOMEX) yng Nghaerdydd, dathliad amserol o brosiect llwyddiannus, ac o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig mewn digwyddiad byd-eang. Aeth 10 Mewn Bws ymlaen i deithio eto yng Nghymru gan gynnwys cefnogi Cerys Matthews yng Ngŵyl y Gelli, a chyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Ers hynny, mae Gwilym Bowen Rhys wedi dod yn ffigwr o bwys ym myd gwerin Cymru, gan ymchwilio a recordio baledi hen a newydd mewn cyfres o albymau llwyddiannus. Mae Gwen Mairi Yorke yn chwarae’n aml ar recordiau Gwilym ac mae hi’n diwtor telyn i Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Mae Lleuwen Steffan yn parhau i greu cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw ac mae Catrin O’Neill, ar ôl ymuno ag Allan Yn Y Fan am rai blynyddoedd, yn dilyn ei gyrfa werin unigol yn llwyddiannus.

Dyma’r Deg:

Gwilym Bowen Rhys
Gwilym Bowen Rhys o Fethel, Caernarfon, yw’r ieuengaf o’r deg cerddor, ond mae e’n adnabyddus i lawer ar y Sin Roc Gymreig fel un o aelodau’r band roc/pop Y Bandana. Yn ddiweddar mae e wedi ffurfio grŵp gwerin amgen gyda’i ddwy chwaer o’r enw Plu.

Lleuwen Steffan
Mae Lleuwen Steffan yn gantores/gyfansoddwraig o Ddyffryn Ogwen. Cafodd ei halbwm Tân wobr Albwm y Flwyddyn yng ngwobrau France 3 TV yn ogystal ag enwebiad ar gyfer y Wobr Cerddoriaeth Gymreig. Enillodd Lleuwen gystadleuaeth Liet International yn Gijon ym mis Rhagfyr am un o’i chaneuon Llydaweg.

Francesca Simmons
Mae hyfforddiant clasurol Francesca wedi ei harwain i astudio ym Mhrifysgol Manceinion ac yna TCM, Llundain. Yno dechreuodd gweithio gyda chyfansoddwyr cyfoes, perfformwyr stryd a bandiau. Wedyn, rhedodd i ffwrdd i ymuno â’r syrcas, lle dechreuodd chwarae’r llif cerddorol a chwrdd â cherddorion o ledled Ewrop. Mae hi wrth ei bod i gael y cyfle i gyfnewid wagon syrcas gyda bws o gwmpas Cymru!

Gwen Mairi Yorke
Cafodd y delynores Gwen Mairi ei magu ar aelwyd Cymraeg yn yr Alban, lle astudiodd yn Academi Frenhinol Cerdd a Drama yr Alban (bellach Conservatoire Brenhinol yr Alban). Ers graddio mae hi wedi gweithio’n broffesiynol gyda cherddorfeydd a grwpiau siambr ac mae ganddi sawl disgybl yn Ysgol Gaeleg Glasgow ac yn Adran Iau’r Conservatoire. Yn ddiweddar mae Gwen wedi treulio mwy o amser yn perfformio cerddoriaeth draddodiadol ar y clarsach, gan ddefnyddio’r alawon werin Gymreig ac o’r Alban a fuodd yn rhan mor bwysig o’i magwraeth.

Craig Chapman
Mae Craig Chapman o hyd yn chwilio am ffyrdd o gyfuno cerddoriaeth organig a digidol mewn ffyrdd sy’n canmol ei gilydd. Wedi’i ddylanwadu gan LCD Soundsystem, SFA a Hot Chip i enwi ond rhai, mae Craig yn un o arloeswyr y band Replaced by Robots ac yn un hanner o John Mouse. Astudiodd Cerddoriaeth Bop ym Mhrifysgol Salford, Manceinion ac mi fydd e’n dod a’i arbenigedd ar y trwmped, gitâr a synth/allweddell i’r prosiect hon.

Mari Morgan
Yn wreiddiol o Bontiets yng Nghwm Gwendraeth, mae Mari’n byw yng Nghaernarfon ar hyn o bryd. Fel ffidlwraig mae ganddi gefndir mewn cerddoriaeth draddodiadol ac wedi bod yn gyfarwydd â chaneuon ac alawon ers iddi gofio. Mae hi hefyd yn chwarae’r ffidil yn glasurol, fel y gwnaeth yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi’n aml yn chwarae’n fyw ac yn recordio gyda’r band pop Them Lovely Boys ac yn recordio’n achlysurol i artistiaid eraill. Mae hi’n hoff iawn o wrando ar gerddoriaeth o nifer o genres.

Ellen Jordan
Yn wreiddiol o Langammarch Wells, Powys mae Ellen Jordan sy’n chwarae’r soddgrwth bellach yn byw yn Efrog ac wedi graddio mewn cerddoriaeth. Mae hi’n mwynhau cyd-weithio mewn sawl maes, ac mae hi wedi gweithio fel cyfansoddwraig, dylunydd sain a pherfformwraig mewn theatr, opera siambr, celf weledol a chynhyrchiadau dawns gyfoes. Mae Ellen hefyd wedi gweithio fel cyfarwyddwraig greadigol ac wedi rheoli nifer o ddigwyddiadau unigryw er enghraifft gamelan wayang o Java (drama cysgodion pypedau) yn seiliedig ar stori Culhwch ac Olwen o’r Mabinogi. O fewn ei chyfansoddiadau mae hi’n arbrofi’n aml gydag alawon werin, lleisiau a recordiadau maes.

Huw Evans
Mae Huw Evans yn ganwr gwerin, ffliwtydd a chyfansoddwr. Mae rhai o uchafbwyntiau gyrfa clasurol Huw yn cynnwys perfformio yn y Neuadd Gŵyl Frenhinol, St Martins-In-The Fields a’r Neuadd Symffoneg Birmingham. Perfformiodd cerddoriaeth glasurol tan ei 20au cynnar ac yna, dechreuodd fagu diddordeb mewn cerddoriaeth werin Gymreig. Amlygwyd hyn ar ôl iddo fynychu ysgol werin Trac, yr Arbrawf Mawr, yn 2010 ac mae e wedi defnyddio pob cyfle posib i ganu a chwarae cerddoriaeth werin Gymreig yn gyson ers hynny.

Catrin O’Neill
Yn wreiddiol o Aberdyfi, mae Catrin O’Neill yn gantores werin sydd bellach yn byw yn Nhreharris. Mae Catrin yn gallu canu mewn sawl arddull, o ganeuon werin Gymreig prydferth ac iasol, i ganeuon yfed Gwyddelig swnllyd, gyda dim ond ei bodhran i’w chyfeilio. Mae hi’n perfformio’n rheolaidd o gwmpas Cymru, ac mae hi’n angerddol am ddod â cherddoriaeth draddodiadol Gymreig i gynulleidfaoedd newydd.

Leon Ruscitto
O Abertawe, mae Leon Ruscitto yn chwarae’r drymiau ac offerynnau taro. Yn raddedig o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion, mae gan Leon brofiad o berfformio mewn ystod eang o arddulliau, o Big Bands i Jazz . Mae Leon hefyd yn cyfuno soul, indi a roc yn y band The Provocateurs sydd wedi ymddangos eleni mewn lleoliadau adnabyddus fel y Gherkin (Llundain) a rasys TT Ynys Manaw.