Alawon Playford yng Nghymru

Robert Evans yn olrhain hanes cerddorol dryslyd

Yn Llundain, yn 1651, cyhoeddodd John Playford “The English Dancing Master Or, Plaine and easie Rules for the Dancing of Country Dances, with the Tune to each Dance”. Roedd pobl wedi mwynhau’r dawnsiau gwledig Seisnig oedd yn y llyfr mewn gwlad a thref, llys brenhinol a gwyliau pentrefol yn ystod yr 16eg a’r 17eg ganrif. Ymddangosodd argraffiadau newydd o Playford, gyda dawnsiau newydd a llawer hen ffefryn, rhwng canol yr 17eg ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Cyflwynai Playford alawon bywiog, yn debyg iawn i’r hyn a glywid mewn tafarnau gwledig, i drigolion cyfoethog a ffasiynol y trefi, ac ar yr un pryd, helpai i ledaenu syniadau ac arddulliau’r llys i ddawnswyr a cherddorion cefn gwlad.

Mae dogfen a ysgrifenwyd yng nghyfnod y Nadolig tua 1598 yn cofnodi presenoldeb tri ar ddeg aelod o’r proffesiwn barddol (gwyr wrth gerdd): saith bardd, pedwar telynor a dau chwaraewyr crwth, a oedd wedi dod ynghyd yn Llewenni, plasdy i’r gogledd o Ddinbych, fel gwesteion y teulu Middleton. [1]. Roedd teuluoedd fel y Middletons a’r Salesburys gerllaw yn rhan o grwp o deuluoedd diwylliedig Cymreig a oedd hefyd yn rhan, ar lefel uchel, o fywyd deallusol Lloegr er fod diwylliant Cymru yn bwysig iawn iddynt. Nid oes cofnod o beth a chwaraewyd gan yr offerynwyr barddol na pha gerddi a ganwyd, ond ceir rhestr hir yn Saesneg o ganeuon, baledi a dawnsiau gwledig Seisnig. Cyflwynwyd llawer o’r caneuon a’r darnau offerynnol o restr Lleweni fel repertoire ar gyfer y Delyn Gymreig, eu henwau wedi eu cyfieithu yn syth i’r Gymraeg, yng ngwaith [2] ac eraill yn y 18fed ganrif. Teitlau Saesneg sydd yn y rhestr, gyda dau neu dri teitl o’r Cyfandir. Mae’r ddogfen hon yn dangos sut yr oedd y gerddoriaeth newydd o gyfandir Ewrop a Lloegr eisoes yn disodli’r hen gerddoriaeth a’r farddoniaeth a gynhyrchwyd yn broffesiynol ac a oedd wedi bwydo’r uchelwyr Cymreig gyda mawl ac addewid o anfarwoldeb ers canrifoedd.

Fe allwn ddyfalu fod y beirdd hyn wedi cynnig cerdd dafod a cerdd dant. Mae’n debygol fod y repertoire Seisnig yn cael ei chwarae gan y teulu ac efallai westeion cerddorol eraill ar adeg y Nadolig.

Dyma’r alawon dawns gwledig o restr Lleweni a geir hefyd yn rhestr Playford, yr argraffiad cyntaf a’r ail. Sillafiad Playford sydd yma yn hytrach na sillafiadau mympwyol dogfen 1598.

Fel y nododd Phyllis Kinney, fe ddaliodd y Cymru i ddefnyddio llawer o faledi ac alawon dawns o Loegr ymhell wedi i’r Saeson golli diddordeb ynddynt. Un enghraifft o hyn, a welir ar restr Lleweni ac yn Playford 1651, yw ‘Pepper Black’, a oedd yn dal i gael ei defnyddio yn anterliwtiau poblogaidd y 18fed ganrif. Yn ystod y dramau poblogaidd hyn, masweddus yn aml, byddai un o’r cymeriadau stoc yn perfformio dawns ddigrif i gyfeiliant ‘Pepper Black’. Mae ‘Irish Trot’, alaw Wyddelig sy’n gyfeiliant i berfformiad cân a dawns doniol a oedd yn boblogaidd yn Llundain am bron i 300 mlynedd [3], yn ymddangos yn argraffiad cyntaf Playford a defnyddir rhan ohoni, wedi ei newid rhyw ychydig, fel alaw ar gyfer y gân ‘Ffoles Llantrisant’. [4]. Mae amrywiadau Cymreig ar gael o alawon eraill gan Playford, e.e. ‘Soldiers’ Joy’. Mae ‘Sweet Richard’, alaw braidd yn blaen yn Playford, yn ymddangos fel alaw syml i’r Delyn yn ‘Musical and Poetical Relicks’ Edward Jones ac yna yn ymddangos fel set o amrywiadau urddasol a soffistigedig mewn arddull baróc hwyr yn chwarae Richard Roberts, y Telynor Dall o Gaernarfon, yn Eisteddfod Wrecsam 1820. [5].

Mae alawon Playford yn wych i’w chwarae er eu mwyn eu hunain yn ogystal â bod yn rhan hanfodol o gerddoriaeth boblogaidd Cymru o ddiwedd yr 16 ganrif ymlaen.

  1. Williams, Ifor Cerddorion a Cherddau yn Lleweni, Nadolig 1595, Bulletin of the Board of Celtic Studies, Tachwedd 1935.
  2. Jones, Edward “Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards” 1784
  3. Rimmer, Joan Carole Rondeau & Branle In Ireland 1300-1800, Part 2. Social & theatrical residues 1550-1800, Dance Research VIII, 2. Autumn 1990
  4. Williams, Maria Jane “Ancient National Airs of Gwent and Morganwg” Facsimile of 1844 Edition, Ed. Daniel Huws, Reprinted 1994
  5. Owen, John “Gems of Welsh Melody” Wrexham 1860

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yng nghylchgrawn Ontrac