Alawon Crwth

Cass Meurig ar y crwth a dod o hyd i alawon iddo

Offeryn canoloesol yw’r crwth, a ddiflanodd o Gymru tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Dim ond yn weddol ddiweddar mae wedi ail-ennill ei statws fel offeryn cerdd byw, gyda efallai rhyw ugain o chwaraewyr erbyn hyn. Mae’r broses atgyfodi offeryn marw yn un ddiddorol ac yn gosod dipyn o her, nid yn unig o ran dysgu sut i’w chwarae, ond hefyd o ran beth i’w chwarae. Does dim llyfr alawon crwth fel petai wedi goroesi – os buodd un erioed. Felly mae pob chwaraewr wedi dod a’i ateb ei hun, rhai yn canolbwyntio ar repertoire canoloesol y crwth, rhai ar alawon gwerin, eraill yn ei ddefnyddio ar gyfer cyfeilio. Nid oes neb yn gosod y rheolau – a dyna ran o’r apêl.

Yn gyntaf rhaid dysgu sut i chwarae’r offeryn, a dod i ddeall pa fath o alawon sydd yn debygol o weithio arno. Dywedir yn aml (gan ffidlwyr yn bennaf) mai offeryn cyntefig, cyfyngedig yw’r crwth. Beth maen nhw’n yn ei olygu yw nad yw’n gwneud beth mae’r ffidil yn ei wneud, a hynny ar y cynnig cyntaf. Mae’r crwth yn offeryn soffistigedig ac yn llawn mynegiant; ond rhaid wrth agwedd ostyngedig, gan ddisgwyl ymarfer am rai blynyddoedd cyn iddo ddatgelu ei gyfrinachau. Rhaid deall hefyd bod y crwth yn chwarae cerddoriaeth crwth, fel mae’r pibau yn chwarae alawon pibau a’r llais yn canu caneuon.

Mae gan y crwth rhyw wythawd a hanner o fewn cyrraedd weddol hawdd o ran melodi, gyda bwrdwn a chordiau cyfoethog islaw ac uwchben hynny. Gyda chwe thant a phont gwbl wastad (sydd yn golygu gallwch chwarae’r chwech i gyd gyda’r bwa ar yr un pryd), mae’n llawn potensial harmonig, yn ogystal ag effeithiau rhythmig drwy blycio tannau gyda’r fawd chwith. Rhaid symud y llaw chwith i fyny’r byseddfwrdd i gyrraedd y nodau uwch, felly gwell dewis alawon nad ydynt â chwmpas rhy eang ac (yn fwy pwysig) nad ydynt yn neidio o gwmpas gormod. Anghofiwch y jigs a’r rîls; rhaid meddwl yn nhermau harmoni a bwrdwn.

Lle gallwn gael hyd i alawon crwth? Gan ddechrau yn yr oesoedd canol (gyda diolch i Bethan Miles am ei hymchwil drwyadl), mae gennym restrau o enwau ceinciau crwth, ac mae rhai ohonynt wedi eu cofnodi mewn tabl nodiant yn llawysgrif y telynor Robert ap Huw, gopïwyd ym 1613. Cerddoriaeth hynafol, estron iawn i ni yw hon, ond mae rhai darnau yn swynol ar y crwth. O’r 16eg a’r 17eg ganrif mae gennym ddogfen a cherdd sydd yn rhestru alawon chwaraewyd gan grythorion. Alawon poblogaidd y dydd oeddent ar y cyfan, rhai wedi goroesi mewn llawysgrifau diweddarach megis ‘Pepper’s Black’ (neu ‘Sbonc bogel’) a ‘Nutmegs a Sinsir’ (neu ‘Breuddwyd y frenhines’); mae eraill wedi hen ddiflannu. Hefyd mae dwy alaw â chrythor yn y teitl, sef ‘Cainc Gruffudd Rowland y crythor’ a ‘Dugan y crythor du’, y ddwy wedi eu cofnodi yn llawysgrif Morris Edward, y ffidlwr o Fôn.

Wedyn rhaid chwilio am alawon sy’n debygol o fod yn addas. Does dim prinder deunydd – mae canoedd o alawon wedi goroesi mewn llyfrau a llawysgrifau o’r ddeunawfed ganrif ymlaen, yn ogystal â’r traddodiad llafar cyfoes, wrth gwrs. Mae caneuon yn aml yn gweithio’n well nag alawon dawns, yn enwedig emynau a charolau plygain gan eu bod wedi eu cynllunio gyda harmoni cyfoethog mewn golwg. Ond mae modd addasu ac amrywio alawon dawns hefyd, gan symud nodau, newid rhythmau neu ail-lunio ambell frawddeg er mwyn ffitio o fewn cwmpas y crwth a gwneud yn fawr o’i holl harmoniau. Yn hyn o beth mae modd dysgu llawer gan chwaraewyr offerynnau â meddylfryd tebyg, megis y pibau cwd, y hyrdigyrdi ac offerynnau o’r un teulu â’r crwth fel y hiiu kannel yn Estonia.

Posibiliad arall yw cyfansoddi cerddoriaeth newydd. Mae hyn yn gam rhwydd mewn ffordd; gallwch ddweud bod elfen o gyfansoddi yn gorfod digwydd pob tro mae rhywun gosod alaw ar y crwth, gan bod rhaid addasu ac amrywio a dewis harmoniau ac effeithiau rhythmig. Cryfder yr adfywiad bach ym mywyd y crwth ar hyn o bryd yw’r elfen greadigol hon; heb ddisgwyliadau a phwysau traddodiad, mae rhyddid llwyr i greu.

Cass Meurig
(o gylchgrawn Ontrac 21)