Ein Gweledigaeth a’n Cenhadaeth
Dyfodol y traddodiad a thraddodiad y dyfodol
Mae trac yn datblygu’r sîn cerddoriaeth a dawns werin yng Nghymru mewn ffordd strategol. Mae’n gweithio i gynnal a datblygu traddodiadau byw egnïol ein gwlad ac yn sicrhau eu bod yn cael eu rhannu a’u mwynhau gan gynulleidfaoedd. Mae’n cefnogi cerddorion amatur a phroffesiynol waeth beth yw eu hoedran, iaith neu hil, a hynny ar draws ffiniau, ac yn dathlu’r cynrychiolaeth orau bosibl o’n diwylliant cerddoriaeth werin, a’i hyrwyddo yng Nghymru ac ar draws y byd.
Sefydlwyd trac ar sail y gred gyffredin ym mhwysigrwydd a gwerth diwylliant traddodiadol Cymru, ymwybyddiaeth o’i berthnasedd parhaol i’r presennol, ac angerdd dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerdd i gynnig.
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae trac yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, ac mae’r wefan hon yn rhestru perfformwyr, digwyddiadau a chysylltiadau.
Mae trac yn Elusen Gofrestredig, Rhif 1085422
Gweledigaeth trac
Mae trac yn credu bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn un o gonglfeini hunaniaeth ein gwlad. Mae ein cerddoriaeth, ein caneuon, ein cerdd dant, dawns a chwedleua yn cynrychioli ac yn mynegi ein hanes, ein ieithoedd, ein diwylliant a’n ffordd o fyw nodweddiadol. Mae’r ffurfiau creadigol hyn yn rhan annatod o’n diwylliant, ac mae’r gwerthoedd a’r emosiynau y maent yn eu mynegi yn ein clymu ni at ein gilydd. Mae trac yn angerddol ynghylch adnewyddu ac adfywio’r ffurfiau hyn ar fynegiant, er mwyn ysbrydoli ein cenedlaethau iau, a pharchu crefft cynheiliaid ein traddodiad.
Mae trac yn gweithio ar ran y bobl hynny sy’n ymwneud â cherddoriaeth werin fel perfformwyr a chynulleidfaoedd, ac i ddatblygu cerddorion a chynulleidfaoedd gwerin y dyfodol.
Cenhedaeth trac
I ddatblygu sîn cerddoriaeth a dawns werin Cymru mewn ffordd strategol i fod yn draddodiad byw ac egnïol sy’n cael ei rannu a’r fwynhau gan gynulleidfaoedd a cherddorion amatur a phroffesiynol ar draws ffiniau a grwpiau oedran, ac i ddathlu ac hyrwyddo ein diwylliant cerddoriaeth werin yng Nghymru ac ar draws y byd.