Mae Trac Cymru yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata sy’n siarad Cymraeg, i weithio’n rhan amser o swyddfa gartref.

Ein man cychwyn

Heb feithrin gofalus ac ymdrech ymwybodol gan lawer o unigolion ac ychydig o sefydliadau gwych, sefydliadau y mae Trac Cymru yn un ohonynt, mae celfyddydau gwerin cynhenid Cymru yn wynebu’r posibilrwydd o ddifodiant.

Mae Trac Cymru yn darparu ysbrydoliaeth, hyfforddiant a chefnogaeth i unigolion a phrosiectau er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. ‘Rydym yn rhoi’r hyder a chefnogaeth i artistiaid gwerin arddangos eu talentau rhyfeddol i’r byd mawr crwn. Ein cenhadaeth yw datblygu celfyddydau perfformio gwerin Cymreig fel traddodiad byw, i’w rhannu a’i fwynhau gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr ar bob lefel, yng Nghymru a ledled y byd, fel ei gilydd.

Fel mudiad, ‘rydym ar drothwy blwyddyn enfawr, a dyma’ch cyfle chi i fod yn rhan o’r cyffro.

Beth sydd ei angen arnom ni

‘Rydym am roi’n gwaith cyfathrebu yn nwylo un unigolyn sydd yn gallu helpu sicrhau ein bod yn cyrraedd, ac yn siarad â’r, byd mewn ffordd effeithiol. Wedi datblygu Strategaeth Marchnata a Chyfathrebu ‘rydym yn chwilio am y person cywir i’n helpu ni ei rhoi ar waith.

Chi yw’r person a fydd yn cefnogi’r tîm rheoli ym mhob agwedd o’r gwaith marchnata. Yn gweithio o gartref, byddwch y gyfrifol am sicrhau bod y byd cyfan yn gwybod amdanon ni, ac am ein gwaith – gan ddefnyddio platfformau cymdeithasol a digidol, yn ogystal â’n helpu ni gyda chysylltiadau cyhoeddus a marchnata ein cynnyrch.

Mae pob un o’n swyddi yn ddibynnol ar gyllido llwyddiannus, ond bydd y rȏl hon yn lleifaswm o 0.6 FTE (3 diwrnod yr wythnos, ar gyfartaledd) tan Fawrth 31ain 2024, gyda’r posibilrwydd y bydd yn datblygu i fod yn swydd llawn-amser dros gyfnod o flynyddoedd.

£13,800 yw’r cyflog cychwynnol (£23,000 pro rata).

Mae Trac Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Ein nod bob amser yw recriwtio’r person gorau am y swydd, ac yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir.

Yr hyn fyddwch yn gwneud

Y Cyfryngau Cymdeithasol
Byddwch chi’n cydweithio’n agos gyda’r rheolwr busnes i ysgrifennu copi a sicrhau bod y cynllun marchnata’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei weithredu’n iawn.

Byddwch chi’n cydweithio gyda’r rheolwr busnes i greu cynlluniau marchnata’r cyfryngau cymdeithasol yn fisol, y cyfan wedi’i ysbrydoli gan gynnwys y cynllun ac wedi’i ddylunio i gydfynd â’r cynllun marchnata ehangach.

Byddwch yn trafod cofnodion blog, fideos ac ebyst, a’u troi’n negeseuon cymdeithasol. Byddwch yn eu golygu, eu gosod ar Canva lle bo angen gwneud hynny a lanlwytho’r cyfan i’r sianeli cyfrwng cymdeithasol perthnasol.

Byddwch yn sicrhau bod ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol:
• yn fywiog
• ar frand
• ar y pwnc
• yn cael ei ddiweddaru’n barhaus
• yn afaelgar

Byddwch chi’n deall ac yn defnyddio platfformau amserlennu megis Hootsuite neu Later i sicrhau bod y cynnwys cymdeithasol yn amserol.

Byddwch chi’n cydweithio’n agos gyda’r Rheolwr Busnes i ysgrifennu ebyst a phostiadau yn cynnwys deunydd marchnata.

Rheoli Ymgyrch Prosiect
‘Rydych yn hapus i reoli agweddau ar farchnata prosiectau wrth eu bod yn codi – gan gadw at strategaeth farchnata sydd eisoes yn bodoli a thynnu sylw pan fyddwch yn cyrraedd ffiniau eich cymhwysedd neu’ch gallu, fel eich bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnoch.

Byddwch chi’n barod i ddysgu.

Mesur, adrodd yn ȏl, gwella
‘Rydych yn hapus wrth drafod data, ac yn deall y ffaith bod data yn allweddol i welliant.

‘Rydych yn ddiwyd wrth gasglu, dadansoddi a defnyddio data marchnata fel modd o fesur cynnnydd yn y sefydliad.

Ai chi yw hwn?

‘Rydych chi’n berson sy’n:
• meddu ar brofiad o farchnata a chyfathrebu, a gorau oll os oedd y profiad hwnnw yn y sector celfyddydol
• am fod yn rhan o rywbeth pwysig ‘rydych wir yn credu ynddo
• cael eich cyffroi gyda’r syniad o weithio i fudiad bach a deinamig sy’n tyfu’n gyflym, a sy’n meddu ar weledigaeth fyd-eang.
• dangos awydd dwfn a gonest i gadw a meithrin celfyddydau perfformio traddodiadol Cymru (efallai eich bod chi’n gerddor hefyd)
• sicrhau bod eich sillafu a’ch gramadeg, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn berffaith bob amser (‘rydych yn teimlo bod gweld collnodau yn y mannau anghywir yn sarhad personol). Wedi dweud hynny, a phan mae angen gwneud, ‘rydych yn deall yn iawn sut mae plygu’r rheolau er mwyn ychwanegu personoliaeth.
• storïwr naturiol, ac yn deall bod grym yn deillio o ysgrifennu emosiynol, ac nid o ormodiaith ac ebychnodau.
• sydd â’r gallu i adnabod stori, ac i ymchwilio a choladu cynnwys o ddigwyddiadau yn y byd go-iawn
• deall sut mae hyrwyddo brand ac yn gwybod pan fod rhywbeth yn edrych yn iawn neu beidio
• hoffi manylder ac yn gallu defnyddio’r holl arfau cymdeithasol perthnasol i greu amserlennu cywir a sicrhau’r ymgysylltiad mwyaf.
• hoff iawn o greu cynlluniau hardd a’u hanfon allan i’r byd
gallu, o bryd i’w gilydd, ymdopi â therfyn amser tynn, ac yn gallu troi ei law/llaw at yr hyn sydd angen ei wneud i gyhoeddi’n neges / cyfeirio at ein brand.
• ddi-droi’n-ȏl. Os nad ydych yn llwyddo ar y cychwyn, ‘rydych yn dyfalbarhau tan eich bod yn gwneud, ac yn dysgu yr hyn sydd ei angen i lwyddo i wneud hynny ddigwydd. Mae gennych y gallu i weithio pethau allan, a gweld pendraw’r broblem.
gallu rheoli eich amser yn dda. ‘Rydym yn dîm bach ac yn croesawu menter, ond hefyd yn credu mewn ffiniau ac yn croesawu’ch gallu i reoli’ch ffiniau eich hunain.
• hapus yn gweithio o fewn y gyllideb ac yn gallu blaengynllunio’n dda er mwyn gwneud y gorau o’r arian sy’n cael ei wario.
wyneb positif ac hyderus y mudiad, yn broffesiynol ac yn hapus i drafod gyda phobl ar bob lefel, ar y ffȏn neu wyneb-i-wyneb, neu mewn cyfweliadau cyfryngol.

Profiad a chymwysterau hanfodol

Cymraeg a Saesneg rhugl
Arferion marchnata digidol, gan gynnwys arfau dadansoddeg megis Google Analytics
Creu ac amserlennu postiadau ar Facebook, Instagram, YouTube a Twitter gan gymryd cyfrifoldeb am reolaeth gymunedol ar bob platfform, lle y mae ymatebolrwydd a chymdeithasgarwch o’r pwys mwyaf.
Arddangos profiad hybrawf o olygu a throsi ffeiliau fideo a sain sylfaenol
Profiad o ddylunio graffeg gan ddefnyddio Canva neu debyg, a llunio delweddau hyfryd
Profiad o brawf-ddarllen, a sicrhau perffeithrwydd yn Saeseg ac yn Gymraeg
Bod yn gyfarwydd ag arfau megis Facebook Creative Studio, Canva, Google drive, Trello ac eraill nad ydym yn ymwybodol ohonynt, ond a fydd yn gwneud ein bywydau’n haws!
Profiad o farchnata neu Radd mewn disgyblaeth berthnasol
Sylw at fanylion

Profiad bonws

Y gallu i sefydlu a chynnal ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol
Golygu fideo
Comisiynu ffotograffwyr, fideograffwyr a dylunwyr graffeg i gynhyrchu allbynnau print a digidol
Golygu gwefan ar WordPress
Cefnogi a chynnal digwyddiadau
Strategaeth ac ymchwil hashnod
Bod yn gyfforddus gyda chameráu a phlatfformau cyhoeddus

Sut y byddwn yn gwybod eich bod ar y trywydd iawn

• Mae’r platfformau cymdeithasol yn edrych yn hyfryd, ac yn llawn sgyrsiau da gyda’n cymuned ni
• Mae’r ystadegau marchnata yn tueddu ar i fyny
• Byddwch yn deall eich pethau ynghylch y prosiectau sydd yn yr arfaeth, a’ch rȏl ynddynt
• Mae’r wefan yn gyfredol
• Mae ein brandio yn weladwy yn yr holl lefydd perthnasol

Sut i wneud cais

Os taw hwn yw’r cyfle ‘rydych wedi bod yn chwilio amdano, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, yn cyfarwyddydd@trac-cymru.org i esbonio pam taw chi yw’r person perffaith ar gyfer y rȏl.

Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus drwy ebost i drefnu cyfweliad.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Ddydd Llun, Rhagfyr 6ed, ond mae angen rhywun arnom ar frys mawr, felly byddwn yn dechrau cyfweld a phrofi sgiliau wrth i ni dderbyn ceisiadau da. Peidiwch ag oedi wrth gyflwyno’ch cais. Edrychwn ymlaen at glywed oddiwrthoch chi.

Os am sgwrs anffurfiol am y rȏl hon, cysylltwch â Danny KilBride, ein Cyfarwyddydd, yn y cyfeiriad ebost uchod.

Skip to content